Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynigion i fyfyrwyr ar gyfer 2020

Gwnewch y mwyaf o’ch arian yn 2020 a chipiwch gynigion anhygoel i fyfyrwyr ar gyfer rhai o’n sioeau gwych, yn cynnwys Cabaret, Everybody’s Talking About Jamie, Heathers a mwy. Mae yna argaeledd cyfyngedig ar gyfer rhai sioeau felly, peidiwch ag oedi.

Acosta Danza - Evolution

6 – 7 Mawrth 2020

Pedwar dawnsiwr o Acosta Danza yn perfformio ar y llwyfan

Ymunwch â’r seren fale fyd-enwog Carlos Acosta a’i gwmni adnabyddus Acosta Danza a fydd yn perfformio rhaglen o weithiau newydd a gwaith a berfformiwyd yn barod. Gyda dawnsfeydd wedi’u gosod i gerddoriaeth gan The Rolling Stones, coreograffi gan y gweledydd Swedeg arloesol, Pontus Lidberg ac ymddangosiad gan Actosta ei hun, peidiwch â cholli allan.

Dan 26 oed a Myfyrwyr : Tocynnau £10+*

Cabaret

24 – 28 Mawrth 2020

Sêr o'r sioe boblogaidd, Cabaret, yn cynnwys menyw yn gwisgo dillad isaf a het, yn canu

Mae hi’n 1931, mae Berlin yn hafan o ddirywiad dwyfol ac mae’r enwog Sally Bowles ar fin camu ar lwyfan y clwb drwgenwog Kit Kat Klub...

Wedi’i ddisgrifio fel “Stunning” (Sunday Express), “Sensational” (Mail on Sunday) a “Superb” (Financial Times). Yn serennu Kara Lily Hayworth, John Partridge ac Anita Harris, peidiwch â cholli’r Cabaret.

Dan 16 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y tri phris drutaf

The Red Shoes

31 Mawrth – 4 Ebrill 2020

Dawnswyr o'r sioe yn perfformio dan arwydd 'Cafe' neon

Daw addasiad buddugoliaethus Matthew Bourne o’r ffilm chwedlonol yn ôl i’r Ganolfan ym mis Mawrth ar ôl ennill dwy wobr Olivier a gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ar draws UDA a’r DU.

Wedi’i gosod i gerddoriaeth hynod ramantus yr oes aur Hollywood, chwedl o obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau’r byd yw The Red Shoes.

Dan 16 oed – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf*

Dan 26 oed – Tocynnau £10+*

Myfyrwyr – Gostyngiad o £5, y ddau bris drutaf*

A Monster Calls

28 Ebrill – 2 Mai 2020

Bachgen bach yn gwisgo pajamas, ac yn eistedd ar gloc mawr sy'n arnofio yn yr awyr

Yn seiliedig ar lyfr adnabyddus Patrick Ness, mae cynhyrchiad Sally Cookson A Monster Calls yn cynnig mewnwelediad syfrdanol i gariad, bywyd ac iachâd.

Mae Conor, sy’n 13 mlwydd oed a’i fam wedi ymdopi’n iawn ers i’w dad symud i ffwrdd. Ond nawr mae ei fam yn dost a dyw hi ddim yn gwella. Un noson mae Conor yn cael ei ddihuno gan rywbeth wrth ei ffenest. Bwystfil sydd wedi dod am dro ac i adrodd chwedlau. Ar ôl iddo orffen, rhaid i Conor adrodd stori ei hun ac wynebu ei ofnau dyfnaf.

Dan 26 oed – Tocynnau £15*

Priscilla Queen of the Desert

5 – 9 Mai 2020

Breninesau Drag ar y llwyfan yn erbyn cefndir coch

Gyda thoreth o gliter, gwisgoedd hudolus a llond lle o blu, mae Priscilla Queen of the Desert yn barêd o glasuron yn cynnwys Hot Stuff, I Will Survive, I Love The Nightlife a Finally!

Dyma sioe epig, dwymgalon am hunan ddarganfyddiad, ehofndra a chydnabyddiaeth.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

Once the Musical

11 – 16 Mai 2020

Golygfa o stryd, yn cynnwys bysgiwr gyda gitâr yn siarad i fenyw ifanc

Wedi’i seilio ar y ffilm boblogaidd sydd wedi derbyn clod gan gynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, mae Once yn adrodd stori dau enaid coll - bysgiwr o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd - sydd yn dod o hyd i’w gilydd yn annisgwyl ac yn syrthio mewn cariad.

Mae’r sioe gerdd arbennig, ddeniadol yma’n stori hudolus a thwymgalon am obeithion a breuddwydion.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

Everybody’s Talking About Jamie

18 – 23 Mai 2020

Dyn ifanc yn wên o glust i glust, yn gwisgo gwisg ysgol a cholur

Mae’r sioe West End hynod boblogaidd, uchel ei chlod yn dod i Gaerdydd, gyda Layton Williams* fel Jamie New a Shane Richie fel Hugo/ Loco Chanelle. Yn ddoniol, bendigedig a hwyliog, dyma sioe gerdd wefreiddiol ar gyfer y teulu cyfan.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

Heathers the Musical

16 – 20 Mehefin 20200

Cartŵn yn dangos tair merch yn dal ffyn hoci

Croeso i Westerberg High, lle y mae Veronica Sawyer yn un arall o’r bobl dawel, anadnabyddus sydd yn breuddwydio am ddiwrnod gwell…

Ond pan mae hi’n gwneud ffrindiau â’r Heathers creulon, prydferth, mae ei breuddwydion am boblogrwydd yn dechrau dod yn wir o’r diwedd.

Nes i JD, rebel ifanc rhyfedd, gyrraedd a’i dysgu ei bod yn lladdfa i fod yn anweledig ond yn waeth byth bod yn adnabyddus.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

Bring It On

23 – 27 Mehefin 2020

Codwr hwyl gyda pom poms yn gwneud campau yn yr awyr

Paratowch! Mae'r sioe gerdd Broadway hynod boblogaidd, Bring It On yn troelli'r holl ffordd i'r Ganolfan ym mis Mehefin 2020.

Wedi’i hysbrydoli gan y ffilm o’r un enw, mae Bring It On The Musical yn mynd â chi ar daith fywiog, egniol sydd yn taclo cyfeillgarwch, cenfigen, brad a maddeuant - yn llawn coreograffi a thriciau ffrwydrol.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

The Lion, the witch and the wardrobe

1 – 5 Rhagfyr 2020

Golygfa o'r sioe, yn cynnwys y Wrach Wen

Mae hoff nofel y wlad, nawr ar y llwyfan. Felly, camwch i mewn i’r cwpwrdd dros y Nadolig i deyrnas hudolus Narnia am antur gyfriniol mewn byd pell i ffwrdd.

Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddynt chwifio hwyl fawr i Brydain yng nghyfnod rhyfel a dweud helo wrth y Ffawn sy’n siarad, Llew bythgofiadwy a’r Wrach Wen oeraidd, fwyaf creulon.

Dan 26 oed a Myfyrwyr – Gostyngiad o £4, y ddau bris drutaf *

*Mae’r holl gynigion yn amodol ar seddi dewisol, dyraniad ac argaeledd.

+ Argaeledd cyfyngedig

Dilynwch ni ar Instagram