Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Boy With Two Hearts

Cariad, colled ac etifeddiaeth. Dyma ddigwyddodd pan gwrddodd Emma Evans, Cynhyrchydd o'n tîm Celfyddydol a Chreadigol, â Hamed Amiri, awdur The Boy with Two Hearts – Llyfr yr Wythnos BBC Radio 4, 29 Mehefin – 3 Gorffennaf 2020.

Pan roddodd y Taliban orchymyn i ddienyddio mam Hamed Amiri, roedd y teulu'n gwybod bod rhaid iddyn nhw ffoi.

Dechreuon nhw ar daith hir a pheryglus o Herat, ar draws Rwsia a thrwy Ewrop, gyda Phrydain yn gyrchfan.

Ond ar ôl i'r teulu gyrraedd Prydain, dechreuodd taith arall – taith drwy driniaeth a chymhlethdodau y cyflwr difrifol oedd ar galon brawd mawr Hamed. Mae The Boy With Two Hearts yn stori am obaith, am daith arwrol un teulu, ac yn llythyr serch i'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Emma Evans

Roedd hi'n arllwys y glaw pan gwrddais i â Hamed am y tro cyntaf a gwrando ar ei ddisgrifiad hardd a dewr o hanes dwfn a phersonol yn cael ei adrodd wrthon ni, dau ddieithryn llwyr.

Rwy'n cofio ceisio hel fy meddyliau at ei gilydd er mwyn gofyn cwestiynau deallus ac ystyrlon, ac rwy'n cofio sgwrs am gariad a cholled, am gysylltiad dynol ac am etifeddiaeth. Ro'n i'n gwybod yn syth ei bod hi'n stori roedd angen ei rhannu.

Roedd Hamed yn gweithio ar lyfr ac wrth i'r prosiect yma ddatblygu, fe wnaethon ni barhau i siarad. Fel Cynhyrchydd, ro'n i am ddarganfod beth oedd y themâu a'r syniadau roedd e am eu cyfathrebu fwyaf.

Fe ddysgais i fwy am ei deulu a'u profiad yn teithio o Affganistan i Brydain, ac yna sut gwnaethon nhw ymdrin â chymlethdodau cyflwr calon ei frawd gyda chefnogaeth y gwasanaeth iechyd gwladol gwych.

Ym mis Hydref y llynedd, anfonodd Hamed ddrafft llawn cyntaf y llawysgrif ata i. Roedd hi'n foment arbennig i fi – cael darllen y llyfr yma cyn i lawer o bobl eraill gael cyfle.

Mae ein gwaith ni yma'n ymwneud â'r llais a lleisiau, ac rydyn ni am greu gwaith sy'n diddanu ac yn herio ein cynulleidfaoedd.

Mae'n adrodd straeon newydd, yn ehangu ein bydoedd, yn ysgogi emosiynau ac yn tanio'r dychymyg. I fi, yn bwysicaf oll, mae The Boy With Two Hearts yn ymwneud â'r daith gorfforol, emosiynol a phersonol, ac mae'n stori wych am obaith.

Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi beidio â chael eich ysbrydoli ganddi, ac alla i ddim aros i gymryd cam nesaf y daith gyda Hamed a'r tîm.

Hamed Amiri

The Boy with Two Hearts, Hamed Amiri

Fis Rhagfyr 2018, drwy dynged neu siawns efallai, cefais afael ar gyfeiriad e-bost Emma.

Ro'n i'n dal mewn poen ar ôl colli fy mrawd ychydig fisoedd ynghynt, a chefais fy nghymell gan awydd ac angen i rannu ei hanes. Anfonais e-bost at Emma.

Rwy'n credu taw angen i bobl wybod pwy oedd e oeddwn i, ond angen cyfleu ei hanfod yn fy mywyd hefyd rywsut.

Wrth gerdded yn ôl o'r cyfarfod enwog cyntaf yna, y cyfan rwy'n ei gofio yw cerdded yn araf yn ôl at fy nghar, yn syllu ar yr awyr, ac yn dychmygu sut digwyddodd y cyfarfod yna. Dyna'r unig dro nad oedd ots gen i am y glaw yn arllwys arna i!

Dechreuais freuddwydio am sut byddai'r ddrama'n edrych, y diweddglo a phobl yn eu dagrau ond yn cymeradwyo'r stori, a'r hyn roedd yn ei olygu i fi.

Roedd 6 Rhagfyr 2019 yn ddiwrnod na wna i byth mo'i anghofio; siocled poeth yn eistedd ar soffa gyfforddus wrth i Emma adrodd y newyddion wrtha i fod Canolfan Mileniwm Cymru am gynnal y prosiect, ac rwy'n cofio'r ddau ohonon ni'n rheoli ein hemosiynau.

Ro'n i'n gallu gweld bod Emma'n gallu teimlo beth oedd hyn yn ei olygu i fi! Ac roedd fy nhaith yn y car yn llawn dagrau o lawenydd, gan wybod fy mod i wedi cyflawni'r amhosib.

Gallwch chi ei alw'n dynged neu'n siawns; cwrdd ag Emma ar hap am baned, hi'n fodlon mentro ar fy stori, ac yn gwneud amser i ddarllen fy llawysgrif.

Roedd e'n deimlad anhygoel gwybod bod pobl fel hi, a sefydliadau fel Canolfan Mileniwm Cymru, yn bodoli.

Nawr dim ond ychydig wythnosau sydd tan i bobl o gwmpas y byd ddarllen hanes fy nheulu, a'r hyn roedd fy mrawd yn ei olygu i fi.

Efallai bod 2021 yn teimlo fel amser pell yn y dyfodol i rai, ond i fi mae'n gyfle i rannu'r stori gyda'r byd ar lwyfan.

Mae cynhyrchiad The Boy With Two Hearts wedi cael cefnogaeth hael gan ein haelodau lleol Bob a Lindsay Clark.

Os hoffech wybod mwy am gefnogi datblygiad ein cynyrchiadau newydd, e-bostiwch: cefnogwyr@wmc.org.uk