Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Mirror Crack’d gan Agatha Christie yn dod i’r llwyfan

Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Wiltshire Creative yn falch o gyhoeddi’r addasiad i lwyfan cyntaf yng ngwledydd Prydain o The Mirror Crack’d from Side to Side, y nofel gyffro Miss Marple boblogaidd gan Agatha Christie.

Bydd stori ddirgel eiconig Marple, gan yr awdur sydd wedi gwerthu’r mwyaf o lyfrau erioed, yn cael ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Rachel Wagstaff  a’i chyfarwyddo gan Melly Still. Dyma fydd y dangosiad cyntaf o The Mirror Crack’d yn Ewrop, a bydd yn agor yn y Playhouse, Caersallog ar 15 Chwefror, cyn teithio i Ddulyn, Caergrawnt a Chaerdydd. Bydd Noson Agoriadol The Mirror Crack’d ar 25 o Fawrth.

“Rydyn ni’n llawn cyffro wrth feddwl am ddod â Marple ddeinamig a hynod fodern i’r llwyfan, a chael gweithio unwaith eto gyda Rachel Wagstaff a Melly Still. Dyma hefyd fydd ein cywaith cyntaf gyda Wiltshire Creative. Mae cyd-gynhyrchu ar draws gwledydd a rhanbarthau yn arbennig o bwysig er mwyn creu gwaith newydd heddiw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd The Mirror Crack’d yn cynnig tro newydd yn y stori i gefnogwyr Agatha Christie, ac yn denu cynulleidfaoedd newydd at ei gwaith.”.

Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru

Gyda themâu cyfaredd, llofruddiaeth a gwaed, mae’r The Mirror Crack’d yn addo i gymryd y gynulleidfa ar daith llawn pryder a dirgelwch. Mae Hollywood wedi cyrraedd pentref cysglyd yn Lloegr ar ffurf seren ffilm hardd. Mae Miss Marple yn teimlo nad yw’r byd ei hangen hi bellach, tan i farwolaeth ddirgel arwain at amau hanes pawb sy’n bresennol. Mae pawb â stori wahanol am yr hyn ddigwyddodd. All Mis Marple ddatod y gwe o gelwyddau?

Bydd y sioe yn agor yn y Playhouse, Caersallog ar 15 Chwefror, cyn teithio i Ddulyn, Caergrawnt a Chaerdydd. Bydd Noson Agoriadol The Mirror Crack’dar 25 o Fawrth.