Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Paratoi i ailagor

O’r diwedd rydyn ni’n paratoi i ailagor Canolfan Mileniwm Cymru yn raddol, er mwyn gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud orau – cyflwyno perfformiadau o safon fyd-eang a darparu profiadau dysgu sy’n cyfoethogi bywydau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynulleidfaoedd, ymwelwyr, staff, preswylwyr, ymarferwyr creadigol a’n cymuned o gymdogion yn ôl unwaith eto. Rydyn ni wedi gweld eisiau pawb!

Mae’n galonogol iawn gweld y cyfyngiadau’n llacio. Mae canolfannau lletygarwch ac adloniant dan do wedi cychwyn ailagor i niferoedd cyfyngedig, ac mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghynlluniau i ailagor digwyddiadau ar raddfa fawr.

Er ei fod yn rhwystredig bod rhaid i ni barhau i aros, caiff amynedd ei gwobr.

Yn y cyfamser, mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i’r llen i sicrhau ein bod ni’n barod i ailagor, yn seiliedig ar gyngor gan Lywodraeth Cymru. 

Rydyn ni’n gweithio i sicrhau ein bod yn ailagor yn ddiogel a bod ein hymwelwyr, staff ac artistiaid yn teimlo’n hyderus bod ein hadeilad yn COVID-ddiogel. Rydyn ni’n cynllunio ailagor yn raddol dros y misoedd nesaf.

Dydd Gwener 28 Mai byddwn yn lansio’r cam cyntaf o ailagor, wrth i ni agor Teras ein hardal eistedd a bar cynhwysydd newydd yn yr awyr agored.

Bydd Teras ar agor drwy gydol yr haf ac yn gweini tameidiau blasus i ginio a digonedd o’ch hoff fasnachwyr bwyd lleol, a diodydd gyda’r nos.

Dros fisoedd yr haf, rydyn ni’n cynllunio rhaglen eclectig a chyffrous o berfformiadau cabaret, digwyddiadau cymunedol ac yn lansio arddangosfa Lleisiau Dros Newid. (Ewch i’n digwyddiadur i gael y manylion diweddaraf).

Mae sioeau anhygoel o’r West End ar eu ffordd aton ni dros yr hydref, yn cynnwys The Book of Mormon ac Everybody’s Talking About Jamie. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig at ein sioe Nadoligaidd fawr i’r teulu eleni, sef Disney’s Beauty and the Beast.

Yn y cyfamser, byddwn yn diweddaru ein hadeilad eiconig, a gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni wneud newidiadau i’r gofodau cyhoeddus. Mawr obeithiwn y byddwch yn hoffi’r newidiadau pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth amhrisiadwy dros y pymtheg mis diwethaf. Mae’r gefnogaeth yma wedi bod yn hanfodol i’n goroesiad fel sefydliad. 

Rydyn ni wedi llwyddo i gadw staff yn gweithio drwy’r pandemig, ac wedi parhau gyda’n gwaith gwych gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau.

Mae’r gefnogaeth hefyd wedi’n caniatáu i recriwtio ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol; grŵp o artistiaid hynod dalentog sydd bellach wedi cychwyn datblygu gwaith newydd a chyffrous gyda ni. Byddwn yn rhannu manylion pellach yr wythnos nesaf.

Hoffwm ddiolch hefyd i Ymddiriedolaeth Garfield Weston ac Admiral. Mae eu buddsoddiad diweddar wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailagor Canolfan Mileniwm Cymru.

I gloi, hoffwn ddiolch o waelod calon i’n staff, ymddiriedolwyr a chydweithwyr llawrydd am eu hymrwymiad parhaus yn ystod y cyfnodau anodd yma. Maent wedi gweithio’n galed ac yn parhau i wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn ailagor Canolfan Mileniwm Cymru gwell, sy’n fwy radical, yn fwy cynhwysol ac yn fwy uchelgeisiol.

Diolch yn fawr i bob un ohonynt.

Mat Milsom - Rheolwr Gyfarwyddwr

Canolfan Mileniwm Cymru – Tanwydd i'r Dychymyg