Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hwyl yr Haf - y 10 uchaf

Gyda chymaint o bethau da ar y ffordd, mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Dyma’n 10 uchaf ni ar gyfer Hwyl yr Haf eleni...

1.YM MIS GORFFENNAF, DEWCH I GAEL GOLWG NEWYDD AR Y DDAEAR

Bydd Luke Jerram, yr artist celf osod, yn dod â Gaia – ei waith celf teithiol arallfydol – i’r Ganolfan am chwech wythnos o 20 Gorffennaf.

Mae Gaia yn anferth, yn mesur saith metr mewn diamedr, ac yn dangos delweddau manwl NASA o arwyneb y ddaear. Cyfle unigryw i chi weld ein planed anhygoel o safbwynt gofodwr.

2. CLWB SWPER NOS SADWRN

Bob nos Sadwrn o 7.30pm, bydd ein Clwb Swper yn darparu’r cynhwysion perffaith ar gyfer noson mas fythgofiadwy. Dewch â’ch ffrindiau i Far a Chegin Ffresh am gabaret lliwgar, dwy ddiod nefolaidd am ddim a bwyd blasus, am £30 y person.

3. CREU GYDA'R PLANTOS

Mae gennym ni lwythi o weithgareddau gwych yn digwydd drwy gydol yr haf i ddiddanu’r rhai bach; o adeiladu cestyll i greu creaduriaid rhyfeddol. Mae’n llanast, mae’n hwyl, ac mae’r cyfan am ddim. Cadwch lygad ar ein hadran i deuluoedd am y newyddion diweddaraf.

4. GWISGWCH EICH ‘KINKY BOOTS’, 22 GORFFENNAF – 2 AWST 2019

Efallai ei bod yn dwym tu fas, ond dyw hi byth yn rhy dwym ar gyfer Kinky Boots! Mae’r sioe yma – enillydd pob prif wobr am y Sioe Gerdd orau, yn cynnwys Gwobr Olivier 2016 am y Sioe Gerdd Newydd Orau, ‘London’s hottest musical’ (Smooth Radio) – yn cyrraedd ym mis Gorffennaf.

5. CYFLE I SBECIAN TU ÔL I'R LLWYFAN

Beth am dretio’ch hun i daith unigryw o gwmpas ein theatr eiconig? Cewch bip tu ôl i’r llenni a dysgu am gyfrinachau’r Ganolfan wrth i chi esgyn uwchben y llwyfan theatr fwyaf yn Ewrop – a chyfle i sbecian yn slei bach i mewn i stafelloedd gwisgo sêr ein sioeau!

6. 'MOVE IT' GYDA MADAGASCAR, 6 - 11 AWST 2019

Os yw eich plant chi yn hoffi ‘shiglo’u stwmps’, wel dyma’r sioe gerdd berffaith ar eu cyfer. Dewch â nhw draw i weld Alex y Llew, Marty y Sebra, Melman y Jiráff, Gloria yr Hippo, a’r pengwins bach direidus ’na, ar antur gerddorol anhygoel.

7. TYNNU LLUN

Haf yma, dilynwch ein taith lluniau ni i ddod o hyd i chwech o’r llefydd gorau i dynnu eich lluniau. Tagiwch nhw ar #snapsyganolfan / #snapthecentre a phob mis byddwn yn dewis ein ffefryn. Os dewiswn eich llun chi, byddwch yn ennill paned a darn o gacen am ddim.

8. PARTI GYDA'R CLUB TROPICANA 13 - 17 AWST

Dyw ein diodydd ddim ar gael am ddim... ond byddwch yn sicr o fagu syched wrth ddawnsio i drac sain o’r ’80au yn cael ei arwain gan seren yr X-Factor, Joe McElderry. Galwch heibio i’r Club Tropicana Hotel am haf hir o gariad

9. TORRWCH EICH SYCHED GYDA DIODYDD AR Y TERAS YM MAR A CHEGIN FFRESH

Mae’r bar ar agor. Mae’r gerddoriaeth ymlaen. Dewch draw i amsugno’r haul a’r awyrgylch yn ein bar awyr agored newydd sbon. Gallwch fwynhau bwyd blasus neu ymlacio gyda choctel neu ddau ar ôl y gwaith. Mae ein teras yn agor ym mis Gorffennaf.

10. GADEWCH I ANNIE EICH YSBRYDOLI, 19 - 31 AWST 2019

Mae’n argoeli i fod yn haf hyfryd, ac yng ngeiriau Annie ei hun gallwch ‘bet your bottom dollar that tomorrow there’ll be sun’ – yn enwedig os gall Annie lwyddo i ganu ei ffordd o’i bywyd diflas yn y cartref i blant amddifad i fywyd teuluol hapus yn y fersiwn newydd yma o’r sioe.

Cadwch mewn cysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol