Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Brendan Cole dancing

5 Sioe ddawns dros y Gwanwyn

O sêr Strictly Come Dancing i’r dawnsiwr bale enwog, Carlos Acosta ac addasiad anhygoel Matthew Bourne o The Red Shoes. Dawns sydd wrth galon y Gwanwyn eleni!

1. Rhaglen Driphlyg

29 Chwefror 2020

Bydd Transitions Dance Company yn dychwelyd gyda rhaglen driphlyg newydd o weithiau dawns byrion, arloesol gan goreograffwyr sydd wedi eu comisiynu’n arbennig, sef H2DANCE (Sweden/Norwy/DU), Cameron McMillan (Seland Newydd/DU) ac Elisa Pagani (Yr Eidal).

Disgwyliwch ddireidi, harddwch a dawnsio corfforol o'r rhaglen ddawns amrywiol yma sydd wedi'i pherfformio gan ddawnswyr rhyngwladol anhygoel.

2. Acosta Danza - Evolution

6 + 7 Mawrth 2020

Bydd y seren bale fyd-enwog Carlos Acosta a’i gwmni adnabyddus, Acosta Danza, yn perfformio rhaglen o weithiau newydd a gwaith a berfformiwyd eisoes.

Mae Acosta’n gwneud ymddangosiad yn yr eiconig Rooster, wedi’i goreograffu gan Christopher Bruce i gerddoriaeth y Rolling Stones.

Mae yna hefyd Ymarfer Agored am 4pm ar 7 Mawrth lle y gallwch fynd y tu ôl i'r llenni i weld sut mae perfformiad dawns yn dod at ei gilydd. Gwyliwch berfformwyr Acosta Danza a staff yr ymarferion yn paratoi ar gyfer y perfformiad gyda’r nos.

Bydd enillydd cyntaf un Strictly Come Dancing y BBC, Brendan Cole, ymuno â thîm anhygoel o ddawnswyr, cantorion a band byw proffesiynol i gyflwyno’r coreograffi a sgiliau perfformio trawiadol sydd wedi sicrhau ei fod ymhlith hoff ddawnswyr y cyhoedd ers dros 15 mlynedd.

4. AJ Live

18 Mawrth 2020

Mae AJ Pritchard, dawnsiwr poblogaidd Strictly sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y rhaglen sawl tro, yn ôl ar daith yn 2020 yn dilyn ei daith gyntaf yn 2019. Bydd AJ Live 2020 yn cyfuno’ch hoff fomentau o Strictly, gyda choreograffi egnïol i ddiddanu’r teulu cyfan, gan AJ a’i ddetholiad o’r gorau o dalent dawns y DU.

Bydd AJ Live hefyd yn cynnwys ymddangosiad gan westai arbennig – brawd AJ a chystadleuydd Love Island 2019, Curtis Pritchard. 

5. The Red Shoes

31 Mawrth - 4 Ebrill 2020

Mae addasiad go arbennig Sir Matthew Bourne o'r ffilm adnabyddus yn dychwelyd yn fuan iawn.

Wedi'i osod i gerddoriaeth Oes Aur Hollywood, chwedl o obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau’r byd yw The Red Shoes.