Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

sioe ddawns

Bydd y sioeau gwefreiddiol yma’n sicr o’ch llorio.

1. Les Ballets Trockadero de Monte Carlo

16 A 17 Hydref, Theatr Donald Gordon

Les Ballets Trockadero de Monte Carlo

Mae’r Trocks yn dod â llond llwyfan o ffroth a ffrŵ-ffrŵ i chi! Mae’r cwmni comedi ballet sydd wedi’i ffurfio’n llwyr o ddynion yn adnabyddus ledled y byd am eu teyrngedau doniol i’r ballet clasurol.

Mae pob perfformiad yn gorlifo gyda thŵtŵs a thestosteron, esgidiau ballet binc golau, amrannau ffug dramatig ac agwedd prima ballerina. En pointe.

2. Passion

23 Hyderf, Theatr Donald Gordon

Passion

Yn y darn synhwyrus a hardd yma am gorff a llais, gwelwn ddawns ac opera’n uno i greu portread gonest o’r poen a thanbeidrwydd rhwng dau gariad mewn bydoedd gwahanol.

Gan blethu synau hiraethlon yr harpsicord a’r Oud Arabaidd, caiff sgôr disglair a newidiol Pascal Dusapin ei berfformio gan Sinffonieta Llundain.

Camwch i fyd tragwyddol lle mae symudiadau’r dawnswyr a chantorion yn mynegi stori fyd-eang o golled a chwant.

3. Roots

5 A 6 Tachwedd, T Dawns 

Roots

Dawns gyfoes gan dalentau lleol a choreograffwyr byd-enwog. Tair stori fachog â phob un yn wahanol i’r llall.

Dyma daith trwy ddawns gyfoes, o ddawns gomedïaidd ac aflêr i ddarn rhyddhaol a thywyll gyda gwisgoedd les du sydd wedi’i ysbrydoli gan y Maffia, gyda chyfuniad Mediteranaidd o steiliau hip-hop, ballet a dawns stryd. Bydd hefyd sgwrs agored ar ddiwedd pob darn er mwyn i chi allu gofyn cwestiynau fel y mynnoch.

4. Flying Atoms

9 A 10 Tachwedd, Dance House

Flying Atoms

Mae Professor Gusto a Professor Hitch yn gweithio’n ddiwyd yn y labordy chwilfrydedd i ateb cwestiynau megis: sut mae adar yn aros yn yr awyr?

I ble mae’r lleuad yn mynd yn ystod y dydd? Dim ond un peth sy’n sicr – mae’r bydysawd yn llawn rhyfeddodau ac nid yw popeth fel yr ymddengys.

Dyma sioe ryngweithiol, chwareus sy’n ysgubo cynulleidfaoedd â’i symudiadau dawns aruchel, ei cherddoriaeth hudolus a’i dylunio syfrdanol.

Mae’n addas i bawb sy’n chwech oed neu’n hyn.

5. The Last Five Years

9–17 Tachwedd, Weston Studio

Last Five Years

Mae’r awdur addawol Jamie a’r actores ddi-waith Cathy yn byw yn Efrog Newydd.

Dyma’u stori garu dros bum mlynedd – a byddwch chi’n syrthio dros eich pen a’ch clustiau hefyd wrth i’r geiriau trawiadol adrodd eu straeon mewn cyfeiriadau dirgroes.

Gyda cherddoriaeth wefreiddiol gan y cyfansoddwr llwyddianus Jason Robert Brown, daw’r stori’n fyw gyda pherfformwyr Byddar a choreograffi prydferth gan yr enwog Mark Smith.

Dyma sioe gerdd a sesiwn therapi mewn un profiad gwefreiddiol.

6. Saturday Night Fever 

27 Tachwedd – 1 Rhagfyr, Donald Gordon Theatre

Teimlwch y wefr wrth i’r ffefryn Prydeinig Richard Winsor (Dorian Grey, Edward Scissorhands) gamu i ‘sgidiau enwog John Travolta yn y fersiwn llwyfan newydd yma o’r ffilm enwog. Gan y tîm a greoedd Cilla the Musical, byddwch chi’n dawnsio yn yr eiliau gyda Tony Manero, i gyfeiliant eich hoff ganeuon Bee Gees o un o’r traciau sain mwyaf poblogaidd erioed.