Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tra'n Bod Ni'n Ynysu...

Dim ond ein tîm Diogelwch sydd yn dal i fod ar leoliad yn adeilad Canolfan Mileniwm Cymru.

Maen nhw’n dweud bod y lle’n ddienaid heb ei bobl. Fel arfer mae hyd at 1,200 o bobl yn gweithio yno o ddydd i ddydd - gan ei bod yn gampws diwylliannol i naw sefydliad.

Ar hyn o bryd mae staff, artistiaid, gwirfoddolwyr, cymunedau, pobl ifanc a chynulleidfaoedd wedi gadael.

Rhain yw’r bobl sy’n sicrhau bod yr adeilad yn ‘Ffwrnais Awen’, fel mae’r arysgrif o gerdd enwog Gwyneth Lewis yn datgan ar flaen ein hadeilad.

Ar hyn o bryd mae’r coridorau’n dawel, ond rydyn ni, yn ein cartrefi, yn parhau i weithio’n galed - yn cyfathrebu â chwsmeriaid ac yn siarad gyda chynhyrchwyr sioeau teithiol ac artistiaid rydyn ni wedi bod yn cydweithio gydag i ddatblygu gwaith newydd a chyffrous.

Rydyn ni’n helpu ein staff a’n sefydliadau preswyl i weithio gartref fel sy’n bosib, yn cefnogi ein gwirfoddolwyr gwych ac yn cadw cynifer o bobl yn gweithio.

Mae ein staff wedi bod yn rhagorol. Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gadw mewn cysylltiad - mae ein rhaglen Radio Platfform bellach yn cael ei ddarlledu o ystafelloedd gwely, rydyn ni’n parhau ar-lein gyda’n Swyddfa Agored i artistiaid.

Rydyn ni hefyd wedi rhannu dau o’n cynyrchiadau ar-lein (Only the Brave a Man to Man - a ddangoswyd fel rhan o ymgyrch godi arian ‘Digithon’ Wales Arts Review) ac rydyn ni wrthi’n archwilio ffyrdd newydd o gysylltu gyda’n gilydd a’r gymuned ehangach.

Radio Platform
Radio Platfform

Mae’r argyfwng yn effeithio ar rai yn fwy nag eraill - yn sector y celfyddydau ac ym mhob rhan o gymdeithas.

Ni fydd popeth yn iawn. Y cyfan medrwn ni ei wneud yw brwydro i barhau i greu gwaith creadigol, ac adlewyrchu ac adnabod bod hwn yn gyfnod pryderus sy’n achosi ansicrwydd.

Mae’n bwysig cofio bod gobaith yn dod o’r pŵer sydd gan bob un ohonom i newid pethau, ac mae’r posibilrwydd yna’n werthfawr. Profiadau byw sy’n bwysig i ni - cysylltu pobl go iawn, mewn amser go iawn gyda straeon a phrofiadau go iawn.

Byddwn yn cymryd amser i ddeall beth mae hyn yn ei olygu, i fod yn barod ar gyfer pan fyddwn ni a theatrau eraill yn ail agor fel y gallwn ail gynnau yn y wefr o ddod â chynulleidfaoedd ynghyd, i rannu ac i ddathlu profiadau byw unwaith eto.

Rydyn ni’n gwybod bydd y dyfodol y wahanol iawn i ni. 

Bydd rhaid i ni newid

Ar hyn o bryd rydyn ni’n ceisio datrys sut gallwn ni oroesi’r cyfnod hwn fel sefydliad, ond mae angen i ni hefyd osod sylfeini newydd.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn ffyrdd newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac fe fydd angen amser arnom i ail-adeiladu’n araf.

Gwledd Ddiwastraff
Gwledd Ddiwastraff

Wrth i ni geisio ail drefnu sioeau mawr, masnachol yn ein prif ofod perfformio - Theatr Donald Gordon, rydyn ni hefyd wrthi’n edrych ar fodelau o gyd-adeiladu, cyd-gynhyrchu a chyllido yr ydyn ni wedi’u datblygu gyda chymunedau.

Bydd hi’n holl bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd cyffrous, ystyrlon, gwydn a democrataidd i fwrw ymlaen gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n anelu at fod yn barod pan fedrwn ni. Bydd effaith hyn yn bellgyrhaeddol, ac i ryw raddau rydyn ni’n aros i weld beth a ddaw.

Ond, rydyn ni’n ymwybodol iawn nad oes gan bawb yr un fraint ac amser â ni - yn enwedig y rheiny sy’n delio â salwch eu hanwyliaid, neu’n brwydro i arbed eu bywoliaeth.

Mae cadw pellter cymdeithasol yn baradocs. Does dim llawer yn gyffredin rhwng bod yn gymdeithasol a chadw pellter.

Ac mae hi’n anodd bod yn gymdeithasol mewn ffordd ystyrlon ar-lein oni bai bod y profiad yn darparu rhywbeth sy’n gyfoethog, sy’n cysylltu pobl ac sy’n fyw.

Tra’n bod ni’n cadw’n ddiogel, ac yn cadw pellter corfforol oddi wrth ein gilydd, mae mor amlwg pa mor hanfodol yw’r celfyddydau; mae rhannu straeon drwy eiriau, caneuon, cerddoriaeth, dawns, animeiddio ac ati, nid yn unig yn darparu adloniant ac yn procio’r meddwl, ond yn ein cysylltu ni hefyd, yn enwedig pan dawn ynghyd i rannu’r profiad.

Three cast members from The Beauty Parade performing a song
The Beauty Parade

Dyna pryd mae’r celfyddydau wir yn cyfoethogi bywydau.

Nid yw’n bosib i ni ddatrys bob dim heddiw, yn aml mae dryswch yn blaenu ar y syniadau gorau.

Mae’n rhaid i ni aros yn gadarn. Mae creadigrwydd yn gallu blaguro yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, a gall “ni” newydd ffurfio lle gynt fu’n cuddio neu’n segur. Gobeithiwn y daw’r “ni” newydd o ostyngeiddrwydd a thosturi, ac o fan hyn gallwn greu pŵer torfol a phŵer creadigol unigolion.

Bydd angen i ni fachu ar bob cyfle mae’r pŵer yma’n ei roi i ni - i ddylanwadu’r dyfodol ac i wneud iddo gyfri - nid yn unig i gelfyddyd ac artistiaid, ond i Genedlaethau’r Dyfodol a chymdeithas yn gyffredinol.

Er lles y straeon hynny rydyn ni eisiau eu clywed, yn aml gan y lleisiau hynny sydd ddim yn cael gwrandawiad - lleisiau sydd ddim yn cael eu darlledu ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr argyfwng hwn.

Byddai’n beth creadigol iawn petai ni’n bachu ar y cyfle.