Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TU ÔL I DDRYSAU CAEEDIG - AWST

Mae’r hydref ar ei ffordd, ond gobeithio i chi lwyddo i fwynhau tamaid bach o dywydd braf ymhlith y gwynt a’r glaw diweddar. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ym mis Awst…

Y mis yma fe lansiwyd ein cyrsiau ar-lein am ddim ar gyfer pobl ifanc. Gyda phynciau’n cynnwys creu ffilmiau, argraffu a chynhyrchu radio, mae’r cyrsiau dan arweiniad tîm o fentoriaid arbenigol.

Mae’r cyrsiau’n dechrau ddydd Mercher 9 Medi ac yn digwydd rhwng 4.30pm - 6.30pm ar Zoom bob dydd Mercher tan ddiwedd y mis. Mae’r cyrsiau yn boblogaidd iawn ac mae llefydd yn brin erbyn hyn. Darllenwch fwy ar ein blog.

Fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi wrth aelodau cynllun hygyrchedd cenedlaethol Hynt, bod modd iddyn nhw bellach archebu tocynnau ar gyfer gofalwyr neu gymar ar-lein.

Mae hyn yn newyddion gwych ac yn rywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno ers gyfnod. Rydyn ni’n falch o greu system docynnau sy’n fwy hygyrch ac yn cynnig profiad gwell.

Bu ein swyddfa docynnau gau ar 1 Awst, ond mae ein tîm llai yn monitro e-bost yn achlysurol ac yn darllen negeseuon ar ein sianeli gyfryngau cymdeithasol o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm rhag ofn eich bod arnoch angen cymorth gydag archebu tocynnau.

Rydyn ni hefyd wedi diweddaru’r adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan er mwyn eich helpu gydag ambell ymholiad. Cymerwch olwg fan hyn cyn cysylltu â ni’n uniongyrchol.

Ewch i’n hadran Cwestiynau Cyffredin er mwyn cael yr atebion diweddaraf i’ch cwestiynau

Ar y cyd â Sophie Howe, sef Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni wedi bod yn galw am brosiect peilot ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol i dalu lwfans byw sylfaenol i artistiaid a helpu’r adferiad yng Nghymru yn dilyn y pandemig.

Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn rhan o raglen tymor newydd gyda Frân Wen. Rydyn ni’n cydweithio gyda’r cwmni ar gynhyrchiad Cymraeg newydd, sydd yn ei gyfnod ymchwilio a datblygu ar hyn o bryd.

Ar 11 Awst fe oleuon ni’n hadeilad unwaith eto, ar gyfer ymgyrch #LightItInRed. Nod yr ymgyrch yw dangos ein cefnogaeth barhaus i’r celfyddydau a’r gweithwyr llawrydd anhygoel o sector y celfyddydau a digwyddiadau, sydd wedi cael eu heffeithio’n wael gan y pandemig.

Yn anffodus nid yw hi wedi bod yn bosib i ni gynnal gweithgareddau i deuluoedd ers dechrau’r cyfnod clo. Fodd bynnag, ar 4 Awst ymunon ni â Chyngor Caerdydd i gynnal gweithgareddau am ddim gan gadw pellter cymdeithasol.

Cynhaliwyd y gweithgareddau yn yr awyr agored ar gyfer #PlayDay2020, a bu cyfle i blant dynnu lluniau gyda sialc o flaen ein hadeilad.

Y diwrnod canlynol, fe gynhalion ni weithdai drymio a dawnsio gyda cherddorion o’r gymuned leol, gan gynnwys: The Successors of the Mandingue, y meistr Balafon a drymiwr traddodiadol N'famady Kouyaté a Keith Murrell a’i ffrindiau. Cafodd llu o wisgoedd carnifal eu harddangos hefyd. Mae lluniau o’r diwrnod i’w gweld ar ein tudalen Instagram.

Rhagflas o Garnifal Trebiwt y tu allan i’n hadeilad

Os ydych chi’n pasio heibio… fe welwch arddangosfa gelf yn ein ffenestri. Cafodd y gwaith celf ei gynhyrchu gan grŵp o artistiaid ifanc, fel rhan o gystadleuaeth gan Mycelium. Cymerwch olwg! Rydyn ni’n gobeithio defnyddio’r gofod yma ar gyfer mwy o waith celf ac arddangosfeydd yn y dyfodol.

Gwaith celf gan Jenise Thomas

Cynhaliwyd ein cwrs hyfforddi radio achrededig y mis yma hefyd. Mae’n gwrs poblogaidd iawn, ac fe lenwyd bob lle ar y cwrs bron yn syth. Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnal ar-lein, ac rydyn ni’n bwriadu cynnal rhagor o gyrsiau tebyg dros y misoedd nesaf.

Mae ein tîm Radio Platfform wedi cyfweld llu o westeion gwych y mis yma, gan gynnwys y cyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens.

Fe wnaeth sawl aelod o’r tîm gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb byw gyda Rod McKenzie, sef cyn-olygydd rhaglen Newsbeat BBC Radio 1.

Y tîm yn cwrdd â Rod McKenzie dros Zoom

Darlledwyd 'Nicloud' sef sioe ddiweddaraf y tîm am eilwaith yn ddiweddar. Mae hi’n sioe sy’n trafod materion o bwys i bobl ifanc, ond mewn ffordd ysgafn a hamddenol. Bu hefyd ddarllediad o bennod newydd sbon o’r Cardiff Dub Club.

Bu chweched bennod rhaglen #Sgwrsio yn trafod y Gymraeg a gwleidyddiaeth, gyda’r cyflwynydd a gohebydd gwleidyddol y BBC, James Williams.

Hefyd edrychodd Luke yn ôl ar gyfweliad Simon Woodroffe, sef perchennog Yo Sushi a fu gynt ar Dragon’s Den. Fel bob amser, mae’r holl sioeau ar gael i wrando arnynt eto am ddim. Ewch i Mixcloud i wrando. A dyna ni am fis arall.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich haelodaeth a chyllid grantiau.

Fe hoffen ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity a The Simon Gibson Charitable Trust for allowing am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi