Rydyn ni’n dal i edrych ymlaen yn fawr at ailagor ac yn parhau gyda’n cynlluniau, gan gynnwys paratoi ein harddangosfa, Lleisiau Dros Newid. Dyma gipolwg ar yr hyn a wnaethon ni yn ystod mis Chwefror...
Cychwynnodd y mis gyda newyddion gwych – roedden ni wrth ein boddau’n cyhoeddi ein bod ni wedi derbyn grant elusennol hael iawn gan Sefydliad Garfield Weston. Bydd y grant yn ein helpu ni ddatblygu a chynhyrchu rhagor o gynyrchiadau ein hunain a chynnwys digidol a meithrin doniau yng Nghymru.
Roedd dyddiad cau ar gyfer ein swyddi Cydymaith Creadigol y mis yma. Mae cyfnod cyffrous ar y gorwel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gyhoeddi’r garfan gyntaf o gymdeithion.Arddangoswyd gwaith celf anhygoel Nathan Wyburn – ‘Words Bruise' – yn ein ffenestr flaen. Comisiynwyd y gwaith pwerus yma gennym ni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Gallwch wylio fideo byr am y gwaith ar ein ffrwd Twitter.
Yn ystod mis Chwefror cyhoeddon ni #Gwyl2021, gŵyl ddigidol am ddim a gynhaliwyd 6 - 7 Mawrth. Roedd y ddau ddiwrnod yn llawn dop â cherddoriaeth, comedi a sgyrsiau cofiadwy. Ffilmiwyd y perfformiadau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a darlledwyd y cyfan ar-lein gan BBC Cymru Wales ar http://www.bbc.co.uk/gwyl2021. Gallwch ddarllen y stori lawn yn ein blog am yr ŵyl.
Lansion ni ein gweithdy crefft digidol cyntaf 15 Chwefror, yn fyw ar Facebook ac Instagram. Yn y gweithdy cyntaf fe gymerodd yr artist June Campbell-Davies yr awenau, gan ddangos i bawb sut i greu offeryn cerdd. Darganfyddwch fwy am ein gweithdai yma. Gobeithiwn barhau gyda’r gweithdai’n fuan.
Hefyd, fe gyhoeddon ni ein rhaglen ‘Bod yn Greadigol’ dan arweiniad Sita Thomas. Dyma gwrs chwe wythnos o hyd sy’n cyffwrdd ar sawl faes o gelfyddyd, gan gynnwys sain, ffilm, theatr a ffotograffiaeth. Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un 14-25 mlwydd oed yng Nghymru.
Fe wnaethon ni hefyd groesawu perfformiadau cymunedol gan Gymdeithas Gelfyddydau a Diwylliant Trebiwt (BACA). Mae’r perfformiad yma’n cyflwyno’r drymiwr dawnus Drumtan Ward. Mae e hefyd yn chwarae’r trombôn wrth berfformio’i gyfansoddiad sy’n deyrnged i’w drympedwr o dad.
Ysgrifennodd Edward Lee, Swyddog Maes a Hyfforddiant Radio Platfform flog gwych am yr holl bethau mae’r orsaf wedi eu cyflawni’n ddiweddar a’r hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc yn 2021. Credwch neu beidio, creodd ein cyflwynwyr dros 200 o sioeau newydd o’u cartrefi yn ystod 2020!
Roedd hi’n bleser gennym gyhoeddi y byddai tocynnau ar gyfer Rambert: Rooms – ffilm theatr-ddawns uchelgeisiol a berfformir yn fyw ar-lein – yn mynd ar werth 1 Mawrth.
Fe wnaethon ni hefyd ddiweddaru tudalen Radio Platfform ar ein gwefan. Cymerwch olwg a dewch i ’nabod rhai o’r unigolion sy’n rhan o dîm yr orsaf.
A dyna’r cyfan am y tro! Mae llawer mwy ar y gweill yn ystod mis Mawrth, gan gynnwys gwledd o gerddoriaeth o berfformiadau Gŵyl y Llais a fu’n rhan o Gŵyl2021.
Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Moondance a Garfield Weston, Paul Hamlyn Foundation, The Clive and Sylvia Richards Charity and The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.