Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tu ôl i ddrysau caeedig – Ebrill 2021

Gyda’r haf ar y gorwel a'n tîm yn paratoi i ailagor, mae mis Ebrill wedi bod yn fis prysur arall. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ym mis Ebrill 2021...

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Rydyn ni'n ymuno â'r miloedd o sefydliadau, busnesau a phobl ledled y DU sy'n credu bod diwrnod o waith caled yn haeddu cyflog teg!

Fe ddychwelodd Hacio Bywyd y mis yma, a bu’n bleser peilota ein digwyddiad digidol cyntaf ar 8 Ebrill, gyda rhaglen o weithdai ar-lein ar gyfer pobl ifanc. Mae Hacio Bywyd yn ddigwyddiad ysbrydoledig, am ddim i bobl ifanc – sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw gyfarfod â gweithwyr proffesiynol y diwydiannau creadigol, a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol, rhyngweithiol.

Ffrydiwyd Rambert: Rooms ar-lein 8-10 Ebrill. Cafodd wylwyr y sioe eu tywys gan ddawnswyr ardderchog Rambert i fydoedd tra gwahanol drwy brofiad theatraidd ymdrochol.

Fe gynhaliodd Radio Platfform cwrs hyfforddi arall llwyddiannus i bobl ifanc ar y cyd â Promo Cymru a Sparc - prosiect celf ieuenctid Plant y Cymoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein cyflwynwyr radio nesaf yn cymryd yr awenau!  

Pobl ifanc ar alwad Zoom

Roedd hi’n bleser cefnogi Articulture Wales – cyfle newydd i greu a theithio gwaith celf newydd yn yr awyr agored. Ewch i articulture-wales.co.uk i ddarganfod mwy.

Pan gyhoeddwyd y newyddion ddydd Gwener 9 Ebrill fod Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Philip, Dug Caeredin wedi marw fe anfonon ein cydymdeimlad at y teulu Brenhinol a buon yn hel atgofion melys o pan fu’r Dug a’i Huchelder Brenhinol y Frenhines yn ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru, gan gynnwys ein hagoriad swyddogol yn 2004. 

Y Frenhines yn ysgwyd llaw unigolyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Cychwynnodd Ramadan 12 Ebrill, ac fe ddymunon Ramadan hapus i’n cyfeillion Mwslimaidd yng Nghymru a ledled y byd.  

Golau Ramadan ar fwrdd, gyda'r nos

Dathlodd ein cyfeillion, Opera Cenedlaethol Cymru, ben-blwydd arbennig – yn 75 eleni, ac fe ddymunon ni Ben-blwydd Hapus iawn iddyn nhw.

Lansiwyd ein ‘Gemau’r Cyfnod Clo’ 9 Ebrill – cyfres o weithdai ar-lein, gyda Chwmni Theatr Mess Up The Mess sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon y broses greadigol wrth greu darn newydd sbon o theatr ar-lein.

Tair dynes wedi gwisgo fel gweinyddesau

Newyddion sioe! Bydd @luciejones1  yn chwarae rhan Jenna unwaith eto yn y sioe gerdd hynod boblogaidd, Waitress pan ddaw yn ôl i’n llwyfan ym mis Mai 2022. 

Mis Tachwedd yma, bydd y sioe gerdd boblogaidd, arobryn, Everybody’s Talking About Jamie yn dod o’r West End i’n llwyfan, gyda Layton Williams yn chwarae rhan Jamie New!

Y Joker yn gwisgo siwt goch ac yn chwerthin

Aeth docynnau ‘Joker – Live in Concert' ar werth. Caiff y ffilm arobryn, Joker ei dangos i gyfeiliant byw gan gerddorfa yn chwarae sgôr wreiddiol Hildur Guðnadóttir am y tro cyntaf. Mynnwch docyn.

Ac yn syth o’r West End, daw DREAMGIRLS i Gaerdydd ym mis Ebrill 2022! Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd 14 Mai, nodwch y dyddiad!

A dyna’r cyfan am y tro. Ond cyn i ni fynd, roedden ni’n awyddus i’ch atgoffa am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi ein cefnogi ni, er mwyn cadw’n gwaith creadigol a chymunedol i fynd… O Rodd Cymorth i wirfoddoli a llawer mwy, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud am ddim. Darganfyddwch fwy am ffyrdd eraill y gallwch chi ein cefnogi ni.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.