Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TU ÔL I DDRYSAU CAEEDIG - Mawrth 2021

Roedd mis Mawrth yn fis anhygoel. Cynhaliwyd yr ŵyl ddigidol gyffrous, Gŵyl 2021 - a hyfryd oedd rhannu gigs gan artistiaid cyfarwydd ac egin artistiaid o’r gymuned leol a ffilmiwyd yn ein hadeilad.

Cychwynnodd y mis gyda gweithdy crefft byw ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Yn naturiol, cennin pedr oedd thema’r sesiwn! Dangosodd yr artist lleol, Nicky, sut i greu cenhinen pedr lliwgar gyda phapur tisw a glanhawyr pibell. Gwyliwch y fideo unwaith eto isod.

Cadwch lygad am ragor o weithdai crefft byw ar ein tudalennau Instagram a Facebook.

Aeth docynnau Rambert: Rooms ar werth. Bydd y sioe ddawns-theatr-ffilm uchelgeisiol yma, sy’n cyflwyno 17 dawnsiwr, 36 golygfa a 100 o gymeriadau, yn cael ei pherfformio a’i ffrydio’n fyw 8-10 Ebrill.

Roedd hi’n Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth ac er nad oedden ni’n gallu cymryd rhan yn y ffordd arferol, roedd hi’n braf cofio nôl i 2018 pan ddaeth sioe gerdd Matilda i’n llwyfan.

Ddydd Sadwrn 6 Mawrth fe ffrydion ni weithdy crefft ar gyfer y teulu cyfan gan Caroline Richards. Dangosodd Caroline i bawb sut i ddefnyddio dail a hadau i greu gweithiau celf wedi’u hysbrydoli gan fyd natur.

Dros benwythnos 6-7 Mawrth roedd hi’n bleser bod yn rhan o Gŵyl 2021. Cyflwynodd yr ŵyl berfformiadau a ffilmiwyd ymlaen llaw gan bedair o hoff wyliau Cymru, gan gynnwys cerddoriaeth, comedi, podlediadau a mwy.

Cymerwch olwg ar ein gwefan Gŵyl y Llais i wylio gigs gan ein hartistiaid ni, gan gynnwys Arlo Parks, Brett Anderson a Cate Le Bon.

Fe gymerodd Radio Platfform ran yn Gŵyl 2021 hefyd, drwy gyflwyno Next Up, cyfres o gigs byw o’r stiwdio gydag egin artistiaid Hip Hop a Rap o dde Cymru.

Mace the Great rapping
Mace the Great

Fe wnaethon nhw hefyd gyflwyno Un Deg Pump sef cyfres o bodlediadau yn trafod ystod eang o themâu, gan gynnwys hunaniaeth Gymreig, hunaniaeth rhywedd, cynhesu byd-eang a merched yn y diwydiannau creadigol. Mae’n werth ei glywed!

 Disney's Beauty and The Beast

Fe gyhoeddon ni hefyd mai Disney’s Beauty and the Beast fydd ein sioe Nadolig 2021. Mae tocynnau bellach ar werth, felly mynnwch docyn nawr.

Admiral

Ddydd Mercher 17 Mawrth fe groesawon ni Admiral i’n teulu, gan gyhoeddi mai nhw yw ein cefnogwr corfforaethol diweddaraf. Yn debyg i ninnau, mae Admiral yn angerddol dros feithrin creadigrwydd yng Nghymru, felly mae’r berthynas yn gweithio i’r dim. Darganfyddwch fwy drwy ddarllen blog gan Sian Morgan, ein Cyfarwyddwr Datblygu a Phartneriaethau.

Mae Hacio Bywyd yn dychwelyd 8 Ebrill, ar ffurf ddigidol, gyda gweithdai cyffrous am ddim dros Zoom dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y sector creadigol. Mae’r gweithdai’n addas i unrhyw un 14-25 mlwydd oed. Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr o theatr i ddawns, radio i ffilm, comedi i ddylunio. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych, ac mae’r cyfan AM DDIM!

Y mis yma fe wnaethon ni alw am artistiaid i greu darn o waith celf cyhoeddus ar gyfer ein hadeilad. Dyma’r trydydd galwad cyhoeddus, gyda galwadau gynt ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Black Lives Matter.

Felly, os ydych chi’n artist neu’n grŵp celf cymunedol gyda syniad gwych ar gyfer darn o waith celf trawiadol, hoffem ni glywed gennych chi! Nid oes thema – dyma gyfle gwych i ddathlu, herio, gofyn cwestiynau a mynnu gwrandawiad. Darganfyddwch fwy am y prosiect a sut i ymgeisio.

Ar gyfer Diwrnod y Cyfrifiad 2021 fe oleuon ni’r adeilad yn borffor, gan ymuno â nifer o adeiladau a thirnodau adnabyddus ac eiconig ledled Cymru a Lloegr.

Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod
Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod

Ambell i ddiwrnod yn ddiweddarach, fe oleuon ni’r adeilad yn felyn ar Ddiwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, i gofio'r rheiny a fu farw yn ystod y pandemig, ac i ddangos ein cefnogaeth i bawb a effeithiwyd.

A dyna’r cyfan am y tro. Os hoffech chi gefnogi unrhyw un o’n prosiectau cyffrous – megis gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau neu greu ein cynyrchiadau ein hunain, yna cymerwch olwg ar dudalen Prosiectau y Gallwch chi eu Cefnogi. Mae Cymru angen creadigrwydd yn awr yn fwy nag erioed.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity and The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.