Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Two ladies wearing face masks

Tu ôl i ddrysau caeedig – Medi

Mae e wedi bod yn fis rhyfedd. Yn ystod mis Medi daeth tywydd braf yr haf a mesurau cyfnod clo lleol yn eu hôl i ran helaeth o Gymru a rhwng pob dim llwyddon ni gefnogi Picnic Cymunedol Carnifal Trebiwt yn yr awyr agored. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ym mis Medi…

Fe gychwynnon ni’r mis gan lansio cyrsiau hyfforddi ar-lein am ddim. Prosiect peilot ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed yw Llais Creadigol, gydag adrodd stori yn ganolbwynt iddo. Ymunom â Promo Cymru a hyfforddwyr eraill i ddarparu gweithdai digidol ffilm, cynhyrchu radio a chreu ‘zines’.

Bydd y cyrsiau yn dirwyn i ben cyn bo hir. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariad ar y cyrsiau a’n cynlluniau i’w datblygu ymhellach. 

Yn ôl ym mis Awst bu tîm Radio Platfform, ein gorsaf radio a rhaglen hyfforddi dan arweiniad pobl ifanc, wrthi’n arwain cwrs cynhyrchu radio am ddim ar-lein. Aeth un o’r cyfranogwyr ati i greu blog a gwaith celf hyfryd yn seiliedig ar ei nodiadau hyfforddi. Cymerwch gipolwg ar flog Bunny Andrews.

Gwaith celf Bunny Andrews

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion, rhannodd Safyan Iqbal, un o aelodau diweddaraf Radio Platfform, y fideo gwych yma ar Hansh.

Bu’r cyflwynwyr Luke a Teifi yn cyfweld â’r cynhyrchydd a darlledwr Richard Rees a fu’n myfyrio ar ei 40 mlynedd o ddarlledu ar gyfer BBC Cymru Wales. Bu’r tîm hefyd yn sgwrsio â David Lloyd, y gweithredwr teledu a radio, am ei waith yn y sector, fel rhan o’u sgyrsiau misol #RadioTalks.

Aeth y tîm ati hefyd i greu rhestr chwarae wych ar gyfer Carnifal Trebiwt 2020. Gwrandewch arno ar Spotify.

Buon ni’n sgwrsio gyda’r mentoriaid a’r cyfranogwyr sy’n cymryd rhan yn Meet a Mentor: Tu ôl y lens, rhaglen fentora pedwar mis rydyn ni’n ei gynnal gyda Create Jobs. Darllenwch hanes Dylan Matthews, sy’n gobeithio bod yn actor/gyfarwyddwr a Prano-Bailey Bond sy’n awdur, cyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilmiau yn ein blog.

Meet A Mentor

Cyn bo hir byddwn yn cynnwys darn gan y mentor Jennifer Lunn a enillodd brif  Wobr Ysgrifennu Popcorn 2020 am ei drama newydd Es and Flo. Roedd y ddrama i fod i ymddangos ar ein llwyfan ac yng Ngŵyl Fringe Caeredin ym mis Awst 2020

Ar 10 Medi, ffrydiodd Dante or Die fideo bodlediad ymdrochol newydd o User Not Found, drama a berfformiwyd gynt i gynulleidfa mewn siop goffi ar Stryd Biwt yn ôl yn 2019. Mae’r profiad 50 munud o hyd bellach ar gael i’w fwynhau ar-lein am y chwe mis nesaf. Felly beth am fynd i www.danteordie.com a rhoi cynnig arni!

User Not Found artwork
Gwaith celf User Not Found

Dathlodd ein cyfeillion Arup 50 mlynedd yng Nghymru. Bu Arup yn rhan allweddol o greu ein hadeilad eiconig – o adeiladu, cynllunio, goruchwylio, isadeiledd, geo-dechneg a threfnu trafnidiaeth. Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad acwsteg a roddodd gyfle i ni wrando ar berfformiadau ffug yn ein Theatr Donald Gordon yn ystod y cyfnod dylunio.

Mewn tristwch rhannwn y bu farw un o ffigyrau blaenllaw sin gerddoriaeth Caerdydd y mis yma. Roedd  Patti Flynn yn un o’r ‘Bay Divas’ gwreiddiol, yn adfocad diflino ar ran pobl Dduon, Asiaidd ac amrywiol ethnig ac yn noddwr Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru. Bydd colled mawr ar ei hôl.

Ar ddydd Sul 20 Medi, wedi misoedd o gynllunio, fe gawsom ni ddathliad cymunedol o’r diwedd. Cafodd y picnic ei gynllunio a’i gydlynu yn ystod y cyfnod clo gyda’n partneriaid hyfryd yng Nghymdeithas Gelfyddydau a Diwylliant Trebiwt ac aelodau o’r gymuned â ganddynt ddiddordeb mewn creu gwisgoedd.

Gwisgoedd carnifal
Gwisgoedd carnifal

Roedd e’n ddiwrnod gwych, gyda thywydd braf, bwyd Caribïaidd, perfformiadau ac awyrgylch hyfryd. Darllenwch yr hanes yn ein blog a gwelwch luniau ar ein tudalen Facebook.

Diolch o galon i’n partneriaid FareshareFood Cardiff a Good Food Get Togethers am eu cefnogaeth drwy gydol y broses o gynllunio’r digwyddiad.

Aeth tocynnau Oti Mabuse ar werth y mis yma. Bydd pencampwraig bresennol Strictly Come Dancing a The Greatest Dancer gyda ni ar 6 Mehefin 2021 ac mae tocynnau ar gael ar ein gwefan nawr.

Oti Mabuse
Oti Mabuse

Bu gwmni dawns Rambert yn ffrydio’u perfformiad byw unigryw nos Wener 25 Medi. Ac, fel all ddigwydd gyda pherfformiad byw, lle mae unrhyw beth yn bosib, bu raid gohirio’r perfformiad yn sgil problemau technegol. Cynhaliodd Rambert berfformiad ychwanegol ar y nos Sadwrn yn lle.

Ymarferion Rambert
Ymarferion Rambert

Ar ddiwedd y mis, roedden ni’n falch iawn o gyhoeddi ein Hadroddiad Safonau’r Iaith Gymraeg 2019/20. I gyd-fynd â’r adroddiad gweler fideo a ffilmiwyd yn ôl yn 2019 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yn y fideo siaradwn ag ambell aelod staff ac ymwelydd am eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich haelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffen ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield WestonPaul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity a The Simon Gibson Charitable Trust  am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.