Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TU ÔL I DDRYSAU CAEEDIG - Tachwedd

Mae hi wedi bod yn fis gwlyb a gwyntog arall, ond wrth i ni i ddod drwy storm eleni mae yna haul ar y gorwel wrth i ni gynllunio at y dyfodol a chwilio am ffyrdd newydd i ysbrydoli’r genedl a chreu argraff ar y byd. Dyma gipolwg o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ym mis Tachwedd...

Mae gennym ni newyddion cyffrous am rai o’r sioeau a ohiriwyd yn gynharach eleni. Rydym ni wedi cadarnhau dyddiadau newydd ar gyfer The Lion, The Witch and The Wardrobe, Ranulph Fiennes a Rhod Gilbert yn 2021 ac fe hoffem ddiolch i bawb a fu’n aros mor amyneddgar am y dyddiadau newydd yma.

Dathlodd y bathodyn #IaithGwaith ei ben-blwydd yn 15 y mis yma. Rydym ni bob amser yn annog ein staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo’r bathodyn, ac mae e wedi bod yn ffordd wych ar hyd y blynyddoedd i ni annog sgyrsiau ac ymholiadau yn Gymraeg. Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau lle bynnag y bo modd.

"Daw arweinyddiaeth ar sawl ffurf. P’un ai’ch bod chi’n arwain y grŵp Sgowtiaid lleol neu’n Brif Weinidog – rydych chi’n dylanwadu ar rywun ifanc ac argraffadwy."

Molly Palmer

Cafodd Molly o’n tîm Radio Plafform ei dewis i’n cynrychioli fel Llysgennad Cenedlaethau’r Dyfodol ac fe raddiodd o’r academi yn ddiweddar. Dyma’n union pam ein bod ni mor angerddol dros gefnogi pobl ifanc ac yn sicrhau eu bod nhw wrth galon popeth a wnawn. Rydym ni mor falch ohoni. Darllenwch ei blog ysbrydoledig.

Y mis hwn bu’n bleser gennym groesawu Frân Wen atom ni. Rydym ni wrth ein boddau’n cydweithio â nhw ar cyd-gynhyrchiad Cymraeg newydd sbon. Daeth y tîm atom ni i gychwyn ar y broses o ddatblygu’r cynhyrchiad yn un o’n hystafelloedd ymarfer. Roedd hi’n deimlad braf cael bod nôl yn gwneud yr hyn rydyn ni’n ei garu – sef creu theatr wych.

Frân Wen
Frân Wen

Ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, cynhaliwyd dathliadau Diwali yma (gan gadw pellter cymdeithasol, wrth gwrs), o dan arweiniad ein ffrindiau o Wales Tamil Sangham a greodd Rangoli prydferth iawn ar gyfer ein cyntedd.

Diwali celebrations

Mae ein dathliadau Hanes Pobl Dduon 365  yn parhau o amgylch yr adeilad, gydag arddangosfa ffotograffiaeth sy’n cefnogi mudiad Black Lives Matter, gan Zaid Djerdi, y ffotograffydd o Drebiwt. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn ffenestri blaen ein hadeilad ar hyn o bryd – cymerwch gipolwg os fyddwch chi yn y Bae. Mae’r lluniau i’w gweld mewn fframiau prydferth tu hwnt gan y dylunydd Katharine Richards.

Cadwch lygad allan am waith newydd ar ddod. Y mis yma byddwn yn cyflwyno murlun trawiadol newydd gan yr artist lleol, Kyle Legall. Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf am y murlun ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae ein tîm Radio Platfform yn parhau i ddarlledu o’u hystafelloedd gwely.

Yn ddiweddar maent wedi creu cyfres newydd o gyfweliadau radio a blogs, sy’n taflu goleuni ar artistiaid ifanc o bob rhan o’n cymuned, sy’n gweithio mewn genres amrywiol – o ffilm i ddawns a llawer mwy.

Mae’r bennod gyntaf yn cyflwyno’r actor/cerddor lleol Gabin Congolo, sy’n serennu yn y ffilm Grime Brydeinig newydd, Against All Odds, a ddangoswyd am y tro cyntaf 20 November 2020. Mae’r ffilm yn serennu Richard Blackwood, Ty Logan a llawer o artistiaid Grime enwog. Darllenwch y blog yma a gwrandewch ar y cyfweliad llawn ar Radio Platfform.

Young black man on a mobile phone
Gabin Congolo

Yn ddiweddar aeth Jason Camilleri, ein Uwch Gynhyrchydd (Tîm Creadigol), i sgwrsio â Miranda Ballin, cyfarwyddwr Plant y Cymoedd ynglŷn â’n partneriaeth barhaus a’n cynlluniau ar gyfer ein rhaglen Gryfach Ynghyd yn y dyfodol. Byddwn yn rhannu’r sgwrs gyda chi'r mis nesaf.

Mae ein tîm gweithrediadau yn parhau i fod yn brysur tu hwnt yn paratoi’r safle ac yn sicrhau ein bod yn barod i ailagor yn hwyrach y flwyddyn nesaf.

Dros y mis diwethaf maent wedi cefnogi 11 sefydliad ar y safle, gan sicrhau bod modd i’w hymarferion ddigwydd yn ddiogel, yn ogystal â chynllunio a gofalu am gwmnïau amrywiol y cyfryngau ddefnyddio’r safle ar gyfer eu gwaith. Mae ein tîm diogelwch ardderchog hefyd wedi helpu gyda dros 260 o ymweliadau i’r safle.

Fel sefydliad, rydym ni wedi gorfod addasu. Bellach mae gennym ni 18 Hyrwyddwr COVID a dogfen safle sy’n sicrhau ein bod yn gweithio’n ddiogel a bod ein gwagleoedd a’n gweithgareddau’n cyd-fynd â’r canllawiau Coronafirws diweddaraf.

Mae gwaith ar ein prosiectau Gwariant Cyfalaf wedi cychwyn, gan gynnwys seddi cymunedol a phŵer solar. Rydym hefyd wrthi’n cefnogi’r gwasanaethau brys; mae’r heddlu wedi bod yn defnyddio’n hadeilad ar gyfer hyfforddiant arbenigol Coronafeirws hollbwysig bob pythefnos.

Ac i gloi, mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno Raymond Briggs’ Father Christmas cynhyrchiad y Lyric Hammersmith a Pins & Needles ar-lein.

Raymond Briggs’ Father Christmas
Raymond Briggs’ Father Christmas

Bydd modd i chi brynu tocynnau ar gyfer recordiad digidol o safon uchel, a fydd ar gael i’w wylio 9 - 24 Rhagfyr 2020.

Ac, os ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig gwych eleni, mae gennym ni ddigonedd o syniadau ar gyfer eich anwyliaid sy’n caru theatr, gan gynnwys aelodaeth, talebau rhodd ac enwi sedd.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield WestonPaul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity a The Simon Gibson Charitable Trust  am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.