Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tu ôl i’r llenni yn ystod y cyfnod clo

Beth sydd wir yn digwydd tu ôl i’r llenni mewn adeilad eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod cyfnod clo estynedig? Llawer mwy na feddyliech chi...

Mae’r gweithgarwch cynnal a chadw parhaus wedi’i dorri’n ôl, ond mae llwyth o waith cydymffurfio rheoliadol mae’n rhaid ei gynnal ar y systemau trydan, nwy, dŵr, awyru a diogelwch bywyd er mwyn sicrhau bod yr adeilad mewn cyflwr o barodrwydd gweithredol; neu mewn geiriau eraill, yn barod i groesawu ymwelwyr unwaith eto.

Mae presenoldeb diogelwch ar y safle bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae teithiau patrôl rheolaidd o gwmpas y safle yn helpu i sylwi ar unrhyw broblemau’n ymwneud ag adeiladwaith y Ganolfan (fel dŵr yn gollwng) sydd wedyn yn cael eu hadrodd wrth y tîm cynnal a chadw.

Hyfforddiant Cŵn Synhwyro'r Heddlu
Hyfforddiant Cŵn Synhwyro'r Heddlu

Mae gwaith o bell i fonitro defnydd ynni’r Ganolfan yn helpu i nodi unrhyw broblemau neu ffigurau anarferol, ac mae modd gweithredu er mwyn helpu i gadw’r costau o fewn y gyllideb a sicrhau bod y Ganolfan yn gynaliadwy i’r dyfodol.

A dweud y gwir, mae’r cyfnod clo estynedig wedi caniatáu i’r tîm ailddychmygu gofynion ynni’r Ganolfan ar gyfer y dyfodol ac archwilio sut gallai technoleg gynnig atebion cost-effeithiol fel defnyddio systemau solar thermol neu ffotofoltäig.

Yn ogystal â’r holl waith cynllunio ac ynni sy’n digwydd, mae darparu cefnogaeth i’r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod anodd yma wedi bod yn hollbwysig hefyd.

Mae swyddogion Heddlu’r De yn defnyddio’r Ganolfan ar hyn o bryd ar gyfer eu gwaith yn ffitio mygydau diogelu ar gyfer staff, ac mae adran cŵn yr uned gweithrediadau arbenigol hefyd yn defnyddio’r adeilad wrth hyfforddi eu cŵn mewn sgiliau arbenigol fel synhwyro ffrwydron.

Hyfforddiant ffitio mygydau amddiffynnol
Hyfforddiant ffitio mygydau amddiffynnol

Adeiladwyd y Ganolfan ar gyfer creadigrwydd a cherddoriaeth a sŵn a phobl – ac fe fyddan nhw i gyd yn ôl ryw ddydd – ond yn ei ffordd ei hunan, mae’r adeilad enfawr yma’n fwrlwm tawel o weithgarwch hyd yn oed heddiw.

David Bonney - Rheolwr Peirianneg a Chadwraeth Adeiladau