Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tymor Rhyddid

Mae tymor Rhyddid Opera Cenedlaethol Cymru yn rhedeg rhwng 3-22 Mehefin, ac yn mynd i’r afael â materion cyfiawnder, rhyddid a hawliau dynol drwy raglen o operâu, sgyrsiau, dadleuon, trafodaethau, arddangosfeydd a phrosiectau digidol.

Mae WNO wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n cynnwys Amnesty InternationalChyngor Ffoaduriaid Cymru i archwilio'r themâu sy'n cael sylw yn yr operau yma, ac i roi cyfle i gynulleidfaoedd gael gwybodaeth bellach.

Yn ein cynteddau fe welwch arddangosfeydd - corfforol a digidol - gyda manylion am sgyrsiau a thrafodaethau sy'n digwydd ar draws Caerdydd drwy gydol mis Mehefin.

Mae llu o berfformiadau ar y gweill, gan gynnwys opera Gian Carlo Menotti o 1950 'The Consul' a bil-dwbl 'The Prisoner' a 'Fidelio Act II' mewn cydweithrediad â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Mae'r tymor yn dangos bod storiâu opera yn berthnasol i'n cymdeithas ni heddiw, ac yn annog pobl i feddwl ychydig ymhellach am yr unigolion sydd tu cefn i benawdau'r wasg heddiw.