Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Uchafbwyntiau Gŵyl y Llais 2021

Gobeithiwn y mwynhewch chi Ŵyl y Llais 2021 cymaint â ni. Roedd y gerddoriaeth yn wych a'r brif lwyfan i'w weld yn anhygoel!

Roedd 'na ddigonedd i'w weld eleni. Roedd drama, cerddoriaeth, gweithdai, trafodaethau a ffilmiau ymdrochol ymysg y perfformiadau am ddim bob dydd, yn ogystal â'r actau gwych a fu'n perfformio yn ein Stiwdio Weston ac ar lwyfan Donald Gordon - o Arab Strap i Hot Chip a mwy.

Dyma flas o'r hyn ddigwyddodd eleni.

Os nad oeddech chi yno, gofynnwch i rywun a ddaeth i'r ŵyl i sôn wrthoch chi am bob dim. Cawsom gwrdd â chymaint o bobl eleni doedd methu credu'r gofod anhygoel, unigryw sydd gennym ni yma i arddangos cerddoriaeth fyw. Mwynhewch!

Dilynwch ni ar Twitter ar gyfer cyhoeddiadau am docynnau a lein-yp 2022.