Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Uchafbwyntiau Tafwyl

Penwythnos yma (21 - 23 Mehefin) bydd Tafwyl yn glanio unwaith eto yng Nghastell Caerdydd. Ydych chi wedi bod i’r ŵyl yma o’r blaen? Mae hi’n hyfryd - dathliad o’r iaith Gymraeg, celfyddydau a diwylliant Cymreig, a'r cyfan am ddim.

Dyma gyfle i ymlacio gyda bwyd a diod a cherddoriaeth byw, yn yr heulwen braf (gan groesi bysedd am yr heulwen braf). Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at Tafwyl eleni, yn enwedig at weld ambell berfformiad gan artistiaid yr ydyn ni’n eu cefnogi.

Bydd gofod yr Is-Grofft yn llwyfan i Connie Orff brynhawn dydd Sul am 5pm. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Connie ers amser, ac wrth ein boddau’n gweld datblygiad yr artist drag dwyieithog o fri yma.

Connie oedd cyflwynydd ein Clwb Swper cyntaf ym mar a bwyty Ffresh yn gynharach yn y mis, ac mae hi’n rhan bwysig o’n rhaglen cabaret.

Hi hefyd oedd un o brif gyflwynwyr llwyfan Pride Cymru y llynedd. Bydd ei pherfformiad yn donic perffaith ar gyfer prynhawn dydd Sul.

Hefyd yn yr Is-Grofft am 6pm ar y dydd Sul bydd darlleniad gan Carys Eleri o’i sioe Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) yn y Gymraeg.

Daeth Carys atom ni gyda’i syniad ar gyfer Lovecraft dwy flynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae’r sioe hynod boblogaidd yma wedi cael ei pherfformio yn y Ganolfan ac yng ngŵyl Adelaide Fringe yn Awstralia.

Fe fydd cyfle pellach i weld y sioe yng ngŵyl Edinburgh Fringe ym mis Awst. Cadwch lygad allan am newyddion pellach am Lovecraft dros yr wythnosau nesaf.

Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weld nifer o artistiaid gwych sydd wedi perfformio yn y Ganolfan yn ymddangos ar lwyfannau amrywiol Tafwyl.

Bydd Gwenno a fu'n perfformio yn Gŵyl y Llais  yn perfformio ar y prif lwyfan nos Wener am 9pm. Ac ar ddydd Sadwrn byddwn yn ymlacio yng ngofod cwtshlyd Y Sgubor ar gyfer cerddoriaeth werin The Gentle Good am 4pm a'r hyfryd Cabarela am 6pm.

Fuoch chi gyda ni ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar? Bydd rhai o artistiaid yr Eisteddfod yn perfformio yn Tafwyl hefyd, gan gynnwys y band poblogaidd Gwilym.

Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrindiau ac aelodau staff ym mhlith y dorf, a bydd un aelod o’n tîm Dysgu Creadigol, Heledd Watkins hefyd yn perfformio gyda’i band HMS Morris yn Y Sgubor nos Sadwrn am 7pm yn ogystal a chyflwyno ‘Dangos a Dweud’ ar gyfer Caerdydd Creadigol ar y dydd Sadwrn.

Cymaint i’w fwynhau, a’r cyfan am ddim. Gwelwch yr amserlen lawn a manylion yr ŵyl yma.