Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 Sioe orau'r hydref

Mae'r Haf yn dod i ben, felly rydyn ni'n troi'r gwres i fyny. Dyma 10 sioe anhygoel i'ch twymo chi dros yr Hydref.

1. Grease

15 - 19 Hydref 2019

Mae hoff sioe gerdd y byd yn ôl! Yn fwy glamoraidd a dewh nag erioed o'r blaen, mae'r cynhyrchiad newydd sbon yma'n dod i'r Ganolfan ar ôl cyfnod boblogaidd dros ben yn y Leicester Curve. Felly, this brand-new production is direct from a sell-out run at Leicester Curve. Ewch i ôl eich Menywod mewn Pinc ac ail-ddarganfod pam taw Grease yw'r un i wylio ym mis Hydref.

2. On Your Feet!

21 - 26 Hydref 2019

Mae'r rhythm yn sicr yn gafael ynnoch chi trwy'r stori gariad grymus yma, sy'n adrodd taith Emilio a Gloria Estefan o strydoedd Ciwba i enwogrwydd byd-eang yn Miami. Yn cynnwys 26 o ganeuon poblogaidd Gloria Estefan megis 1-2-3, Get On Your Feet, Everlasting Love, Dr. Beat, Don't Wanna Lose you, Rhythm Is Gonna Get You a mwy.

3. 9 to 5 The Musical

29 Hydref - 2 Tachwedd 2019

Deffrwch a dewch i’r Ganolfan i weld sioe gerdd boblogaidd Dolly Parton, gydag adolygiadau 5* a pherfformiadau hynod boblogaidd yn y West End, Llundain. Yn serennu'r sêr o Gymru, Amber Davies a Caroline Sheen, mae'r clasur yma'n llawn dop o ganeuon poblogaidd ac wedi gosod ar y ffilm o'r 80au sy'n cynnwys Dolly Parton a Jane Fonda.

4. Hive City Legacy

7 - 9 Tachwedd 2019

Yn dilyn cyfnod hynod boblogaidd yn Roundhouse Llundain, mae femmes Hive City Legacy yn dod â'i sioe terfysgol a grymus i'r Ganolfan, gyda cymysgwch o bît-bocsio ffrwydrol, acrobateg yr awyr, gair llafar a dawnsio cyfoes.

5. Lost in Music!

15 Tachwedd 2019

Gafaelwch yn eich gwisg a pharatowch am ddisgo gyda band gwefreiddiol, cast talentog a lleisiau syfrdanol yn canu'r holl glasurol o Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth, Wind & Fire, Sister Sledge, Chic a mwy.

6. Movie Mix Tape

17 Tachwedd 2019

Mae'r carped coch yn barod am noson o gerddoriaeth ffilm hudolus, yn cynnwys y caneuon eiconeg a wnaeth ddod yn enwog o ffilmiau; o Disney i Moulin Rouge, Dirty Dancing i The Greatest Showman a llawer mwy. Ymunwch â chasg serennog a sŵn arbennig The Novello Orchestra.

7. Nativity! The Musical

19 - 23 Tachwedd 2019

8. I Wish I Was a Mountain

29 Hydref - 1 Tachwedd 2019

Mae crwydryn yn cynnig rhoi dymuniad unrhyw un sy’n gofyn. Cyn bo hir, mae’r ddinas wedi ei gweddnewid. Mae plastai crand wedi cymryd lle cytiau mwd, ac mae cardotwyr yn teithio mewn steil yn eu coets a cheffyl. Ac mae un dyn yn dymuno troi mewn i fynydd.

Wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan Toby Thompson – cyn-enillydd slam farddoniaeth Glastonbury – mae I Wish I Was A Mountain yn defnyddio odl, cerddoriaeth fyw a phinsiaid o athroniaeth fetaffisegol i ail-greu stori dylwyth teg glasurol Hermann Hesse mewn modd beiddgar.

9. Red

14 - 29 December 2019

RED yw ein sioe Nadolig eleni ac mae'n addas ar gyfer y teulu cyfan. Ymunwch â ni am antur wyllt i goed y tylwyth teg lle mae'r coed yn sibrwd, creaduriaid rhyfedd yn llercian a bleiddiaid yn rhedeg yn wyllt wrth i ni ddod â holl hwyl yr ŵyl i chi dros y Nadolig. Wedi’i hysbrydoli gan stori’r Hugan Fach Goch mae RED yn sioe ddireidus ar gyfer y teulu cyfan.

10. Les Misérables

26 Tachwedd 2019 - 4 Ionawr 2020

Ar ôl bron i ddegawd o deithiau'n gwerthu'n gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig, daw cynhyrchiad Broadway mawr ei glod Cameron Mackintosh o sioe gerdd Boublil a Schönberg, Les Misérables, yn ôl i'r Ganolfan yn 2019. Mae'r llwyfannu newydd sbon yma wedi rhyfeddu'r byd gyda phobl yn honni mai dyma 'Les Mis ar gyfer yr 21ain Ganrif'.