Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Croesawu gwirfoddolwyr newydd

Mae ein gwirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, yn chwarae rhan bwysig iawn yma, gan groesawu cynulleidfaoedd i’r theatr a gwneud yn siŵr bod pawb yn mwynhau’r ymweliad ac yn ymlacio’n llwyr.

Mae Morgan Ward, sy’n 17 oed, yn un o’n gwirfoddolwyr ieuengaf, felly aethom i gael gair ag e i holi sut y dechreuodd ei ddiddordeb, a sut brofiadau mae e wedi’u cael hyd yma . . .

Sut glywaist ti am y syniad o wirfoddoli yma?

Ro’n i wedi gweld y cynllun yn cael ei hysbysebu ar y wefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond do’n i ddim mewn gwirionedd wedi meddwl am wirfoddoli. Ond fe ddois i yma i weld sioe, a dyna pryd y penderfynais i fynd amdani. Dwi’n astudio drama, Cymraeg a chwaraeon, felly mae’r profiad wedi bod yn werth chweil ac wedi agor nifer fawr o gyfleoedd i mi.

Beth sy'n digwydd ar shifft arferol?

Ry’ch chi’n dod i mewn am sesiwn briffio. Mae’r cyfan yn hamddenol iawn, a phawb wedi ymlacio. Ry’n ni’n mynd dros amserlen y sioe, cyn anelu am ein safle yn barod ar gyfer ‘Tŷ ar Agor’.

Wrth i’r gynulleidfa ddod i mewn ry’ch chi’n cyfarch pawb ac yn eu croesawu, a phan mae’r perfformiad yn cychwyn ry’ch chi’n gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn a phawb yn ddiogel. Yna, ar y diwedd, ry’ch chi’n cau’r drysau ac yn gwneud eich ffordd yn ôl i lawr.

Pa sioeau wyt ti wedi eu gweld hyd yn hyn?

Roedd yn dymor Opera Cenedlaethol Cymru pan ddechreuais i, felly perfformiadau opera oedd y rhan fwyaf o’r rhai welais i. Do’n i ddim yn disgwyl hoffi opera, ond erbyn hyn dwi wedi dod i’w fwynhau lawer mwy. Dim ond ar gyfer sioeau cerdd ro’n i’n arfer dod yma, ond nawr dwi’n gweld pethau na faswn i byth wedi eu gwylio o’r blaen – ‘Trocks’, er enghraifft, oedd yn grêt.

Fel un sy'n gwirfoddoli'n rheolaidd, wyt ti'n dal i fod mor frwdfrydig, neu eisiau gweld llwyth o berfformiadau?

Tipyn o’r ddau, mewn gwirionedd. Oherwydd bod y sioeau ymlaen yma, dy’ch chi ddim am golli’r cyfle i’w gweld – ond hefyd mae’n llawer o hwyl bod yn rhan o’r cyfan.

Ym mha ganolfannau rwyt ti'n gweithio fel arfer?

Mae’r rhan fwyaf o’m shifftiau i wedi bod yn Theatr Donald Gordon, ond dwi hefyd wedi gwneud cwpwl o sioeau yn Stiwdio Weston ac yn Neuadd Hoddinott y BBC.

Er bod Neuadd Hoddinott ychydig yn fwy ffurfiol, mae’n hamddenol ar yr un pryd
. . . os yw hynny’n gwneud synnwyr? Mae Stiwdio Weston yn awyrgylch unigryw, lle ry’ch chi’n cwrdd â phobl cwbl wahanol yn gwylio perfformiadau anghyffredin, sy’n llawer o hwyl.

Ym mha ffordd mae gwirfoddoli wedi dy helpu di?

Mae e’n sicr wedi fy helpu i baratoi at fy arholiadau Lefel A mewn Drama, ond mae e hefyd wedi agor byd cwbl newydd o gelfyddyd i mi – pethau na fyddwn fel arfer wedi dewis eu gweld. Mae’n grêt cael cyfle i gwrdd â phobl newydd, a gwella fy hyder a’m sgiliau cyfathrebu, fydd yn help mawr i mi yn y dyfodol.

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl ifanc eraill sy'n ystyried gwirfoddoli?

Mae e’n gyfle gwych, hyd yn oed os nad oes gen ti ddiddordeb mawr yn y celfyddydau. Rwyt ti’n cael llawer iawn o fudd o’i wneud e – ac mae’n edrych yn dda ar dy CV hefyd ;)

Ond, o ddifri, mae’n gyfle unigryw i brofi a gweld cymaint o bethau newydd – a dyna, mae’n debyg, y peth gorau am wirfoddoli yma.