Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Am flwyddyn, 2018

Gyda 2018 yn dirwyn i ben, dyma gau’r llenni a chamu oddi ar y llwyfan am y tro olaf eleni gyda chipolwg ar flwyddyn anghredadwy. 

Ionawr

Daeth sioe gerdd newydd Take That, The Band, i’r Ganolfan a synnu’r gynulleidfa gyda syrpreis anhygoel wrth i Gary Barlow, Mark Owen a Howard Donald gamu ar lwyfan gyda’r cast. Wrth gwrs, roedd ein cyfryngau cymdeithasol ni’n brysur iawn.

Chwefror

Rydyn ni wastad yn trio ein gorau glas i danio’ch dychymyg a bu Chwefror yn fis amlwg am hynny.

Fe adeiladon ni fydysawd... roedd adeiladu drwy’r gwyliau’n ôl a bu trawsnewid mawr yn y Lanfa wrth i fwy na 2000 o bobl ddod ynghyd i greu bydysawd arall, gydag estroniaid a phlanedau.

Mawrth

Roedd y Gwanwyn yn nodi lansiad ein tymor newydd sbon, Perfformiadau i’r Chwilfrydig. Gyda’r un cyntaf dan lyw menywod gwelwyd llu o berfformiadau cyfoes yn y Stiwdio Weston.

Un arbennig o ddisglair oedd Maddie Rice yn Fleabag; addasiad theatr o’r sioe deledu BBC a enillodd wobr BAFTA.

Ebrill

Yn Ebrill fe groesawon ni gynhyrchiad disglair Matthew Bourne o Cinderella; wedi’i osod yn Llundain yn 1940au yn ystod cyfnod y Blitz fe gyfareddodd cynulleidfaoedd gyda chynhyrchiad gweledol anhygoel a thrac sain gan Prokofiev.

Mai

Fe ddaeth ein gŵyl gelfyddydol ddinesig blynyddol Breakin the Bay a Gŵyl y Llais at ei gilydd i roi’r cyfle i bobl ifanc rhaglennu, archebu, trefnu, hyrwyddo, a rhedeg eu digwyddiad cerddorol eu hunain yn un o ganolbwyntiau cerddorol mwyaf eiconig Caerdydd, a helpu cynhyrchu gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach a werthodd bob tocyn.

Mehefin

Nawr yn ei ail flwyddyn mae Gŵyl y Llais yn parhau i dyfu o ran cyrhaeddiad ac arloesedd a bellach mae’n un o wyliau celfyddydol cenedlaethol Ewropeaidd sy’n tyfu’r cyflymaf.

Eleni roedd ystod enfawr o berfformiadau amrywiol gan Patti Smith, Elvis Costello, Nadine Shah, Gruff Rhys a Cherddorfa Cyngerdd y BBC, Tank and the Bangas, Le Gateau Chocolat, Reykjavikurdaetur a llawer mwy.

Bydd yr un nesaf yn 2020 yn un i’w gwylio…

Gorffennaf

Fe ddaeth y sioe gerdd arobryn Warhorse yn ôl i’r Ganolfan ar ddechrau’r Haf i ryfeddu a chyfareddu cynulleidfaoedd Cymru gyda phypedwaith anghredadwy ac effeithiau arbennig a adawodd cynulleidfaoedd yn pendroni os oedd y ceffylau ar lwyfan yn rhai go iawn.

Awst

Yn ystod haf hir a chrasboeth 2018 fe hawliodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru'r Ganolfan ac fe ddaeth torfeydd yn llu – gyda hwb bach gan dywydd anhygoel a gwyliau’r ysgol – i ŵyl hollgynhwysol ffantastig llawn diwylliant, cân a dawns Gymreig a welodd hyd at 25,000 o bobl yn camu dros ein rhiniog bob dydd.

Yn ogystal â hynny, lansiwyd Lovecraft, ein cydgynhyrchiad a ysgrifennwyd a serennwyd Carys Eleri ac fe aeth i Ŵyl Ymylol Caeredin cyn mynd yr holl ffordd i bendraw’r byd, Adeilaide yn Awstralia.

Medi

Roedd mis Medi’n canolbwyntio ar Opera Cenedlaethol Cymru wrth iddyn nhw ddatgelu eu tymor opera’r Hydref.

Gyda darn epig, Tolstoy, War and Peace yn hawlio’r llwyfan, adfywiad yr opera byd enwog, La Traviata a La Cerentola – dehongliad Rossini o Cinderella – ynghyd â wigiau dramatig a sgôr cerddorol disglair.

Hydref

Yn fis Hydref roedd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo yn y Bae. Am y 40 mlynedd diwethaf, mae’r Cwmni ballet lawn dynion, dan yr enw The Trocks wedi cyfareddu cynulleidfaoedd gyda chellweirio drygionus a ballet clasurol. 

Tachwedd

Roedd Tachwedd yn fis llawn hud, lledrith a gwrachod gwyrdd wrth i gynulleidfaoedd ddod yn llu i fwynhau Wicked a oedd yma am rhai wythnosau gyda set llwyfan anhygoel fe wnaeth y sioe hudolus fwrw swyn ar bob un gynulleidfa.

Rhagfyr

Mae Nadolig yn y Ganolfan o hyd yn gyfnod arbennig ac eleni rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael y sioe gerdd, Matilda, yn y theatr Donald Gordon i ryfeddu teuluoedd, hen ac ifanc, tan 12 Ionawr 2019.

Roedd Le Gateau Chocolat hefyd yma, gyda Duckie, a welodd y clasur i blant The Ugly Duckling ar ei newydd wedd yn ogystal ag Icons, ei strafagansa gerddorol byw  i oedolion.

Roedd hefyd yn fis mawr i Radio Platfform gydag agoriad ein hail stiwdio radio, a dechrau darlledu’n fyw o’r Ganolfan yn ogystal â lansiad ein hymgyrch codi arian, Codi’r To, i godi £15,000 i bobl ifanc gyda’r elusen o Gaerdydd, Grassroots, i’w galluogi nhw i gymryd rhan yn ein cwrs cynhyrchu radio chwe-wythnos.

Bydd 2019 hyd yn oed yn well. Cymerwch gipolwg ar yr hyn sydd i ddod.