Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Datblygu pobl ifanc

Dros y 14 mlynedd diwethaf rydym wedi helpu miloedd o bobl ifanc o gefndiroedd anodd i godi eu dyheadau a theimlo'n hyderus yn eu galluoedd trwy ymgysylltu â'r celfyddydau, diolch i gefnogaeth fel eich un chi.

Gadewch imi ddweud wrthych am Asha. Yn blentyn, roedd Asha wrth ei bodd
yn ysgrifennu rhigymau a cherddi; rhywbeth y mae hi'n edrych yn ôl arno nawr ac yn gwybod mai dechrau ei hysgrifennu caneuon oedd hi.

Dim ond 14 oed oedd Asha pan ddaeth i Ganolfan Mileniwm Cymru yn gyntaf, yn ddiffyg hyder a hunan-barch.

Dechreuodd hyn newid pan ymunodd â'n clwb canu lle cafodd
fentora, gwneud ffrindiau a gallu datblygu ei sgiliau canu.

Yr oedd Asha yn ei chael hi'n anodd iawn i ennill cyflogaeth yn y maes creadigol. Heb unrhyw brofiad perthnasol, roedd camau nesaf Asha yn ymddangos yn ansicr nes iddi ddod yn ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru, lle cafodd ei chreadigrwydd ei drin gyntaf.

Er mwyn ennill y profiad roedd ei angen arni, cymerodd ran yn ein prosiect Tooling Up yn ystod Gwyl y Llais 2016.

Wrth dreulio mwy o amser yn y Ganolfan, clywodd Asha am ein prosiect Radio
Platfform; ein gorsaf radio a'n rhaglen hyfforddi dan arweiniad ieuenctid.

“Po fwyaf o bobl sy'n cael eu clywed y cryfach yw'r gymuned."

Asha

Yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau bywyd, mae Radio Platfform yn cynnig lle diogel i bobl ifanc ddysgu a thyfu, ac allfa i fynegi eu barn eu hunain.

Yn bwysicaf oll i Asha, roedd hefyd yn darparu llwyfan y gallai hi rannu ei chreadigrwydd a'i donu canu enfawr gyda chynulleidfa.

Dwy flynedd ymlaen, mae Asha bellach wedi ei phenodi'n Bennaeth Cerddoriaeth ar gyfer Radio Platfform - sef internship a ariennir gan ein cefnogwyr yn union fel chi.

Dywedodd Asha yn ei arddegau, yr oedd hi'n arfer breuddwydio am weithio i'r Ganolfan, ac ni all gredu bod hyn yn realiti nawr.

Stiwdio Radio Platfform yw ei hoff lle; yn rhywle mae'n teimlo'n ddiogel ac yn gallu cyrraedd ei photensial creadigol llawn ymhlith ffrindiau tebyg sy'n cefnogi ei gilydd.

Siaradodd Asha yn hir am sut y mae hi'n gweld ei ffrindiau yn cael trafferth gyda diffyg cyfleoedd cyflogaeth, yn enwedig y rhai yn y maes celfyddydol.

Mae hyd yn oed ffrindiau â graddau perthnasol yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg profiad.

Mae Asha hefyd wedi sôn am bwysigrwydd technoleg yn y diwydiant creadigol, ac nad yw llawer o bobl ifanc o gefndiroedd anodd yn gallu fforddio prynu'r offer sydd ei angen arnynt i ennill y profiad angenrheidiol.

Mae hi'n credu ei fod yn wych bod Radio Platfform yn gallu darparu hyn i roi’r cychwyn i bobl ifanc yn eu bywydau maen nhw'n haeddu ac i feithrin talent ifanc.

Mae Asha mor ddiolchgar am y sgiliau mae hi wedi ei ennill wrth gymryd rhan yn Radio Platfform.

Mae hi wedi dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd diwydiant safonol megis Myrad a'r Adobe Editing suite, ond yn bwysicach fyth mae wedi ennyn hyder a balchder a oedd yn anodd ei ddisgyn pan oedd hi'n tyfu i fyny.

"Y mae'n han fodol i ddarparu lle diogel y tu allan i addysg draddodiadol ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

Asha

Geiriau doethineb Asha i bobl ifanc sy'n cychwyn ar y rhaglen Radio Platfform fyddai bod y stiwdio yn lle positif; lle y mae dychymyg yn cael ei annog a gall cyfeillgarwch fel teulu ffurfio.

Gyda'ch help, gall mwy o bobl ifanc ddod trwy ein prosiect - a phwy sy'n gwybod – efallai nhw fydd y Jason Mohammad, Jools Holland neu Asha Jane nesaf.