Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Profwch theatr o ongl newydd

Roedd trigolion Penarth ac ymwelwyr brwd i’r theatr yn edrych am ‘brofiad theatr’ newydd. Dyma sut wnaeth coffi boreol eu harwain at wirfoddoli...

Pam wnaethoch chi benderfynu gwirfoddoli?

Tony: Daethon i wybod am wirfoddoli wrth gael coffi yma. Soniodd y staff am y cynllun ac fe benderfynom ni roi cynnig arni.

Penderfynais gymryd rhan er mwyn gweld mwy o sioeau. Yn 2018, gwyliais dros 100 sioe – a’r rheini naill ai drwy dalu am docynnau neu drwy wirfoddoli.

Byddai hynny wedi fy nhrechu’n ariannol petawn i dal yn gweithio! Ond, rwy’n cael buzz o fynychu sioeau a bod o amgylch pobl sydd yn mwynhau.

Andy: Mae’n ffordd wych o ryngweithio a chymdeithasu â phobl, yn enwedig os fel fi, rydych chi’n gyfarwydd â gweithio ar ben eich hun.

Mae cael mynd i theatr lawn o bobl (sydd yn gyffredinol yn garedig iawn) ac o bob cefndir, yn ffordd wych o gymdeithasu.

Pam ddewisoch chi’r theatr yma?

Tony: Rydw i wedi byw ym Mhenarth ers 30 mlynedd, felly rwy’n gyfarwydd â’r theatr yma. Rwy’n gwylio llawer o sioeau mewn nifer o theatrau gwahanol, ond dyma’r un gorau o bell ffordd.

Rydw i hefyd wedi gwneud rhai teithiau technegol yma ac mae sefyll ar lwyfan y Donald Gordon yn gwneud i chi sylweddoli pa mor arbennig y mae’n teimlo i berfformio yma.

Andy: Rwy’n hoffi’r ffaith bod y Ganolfan yn cynnal cynyrchiadau am gyfnodau hirach, felly os nad ydych chi’n hoff iawn o un perfformiad ar y dechrau gallwch chi ei wylio eto i weld os yw hi’n tyfu arnoch chi (fel y gwnaeth Matilda i fi). Gwnes i saith shifft i Matilda yn y diwedd!

Beth yw rhai o’ch uchafbwyntiau?

Tony: Wrth wirfoddoli rydych chi’n cael gweld pob cynhyrchiad o bersbectif gwahanol.

Yn ystod Miss Saigon, roeddwn i’n ffodus i fod yn agos iawn i’r actio anhygoel wrth fod lawr yn seddi’r llawr, ond hefyd fe ges i’r cyfle i weld y coreograffi gwych o gefn y theatr.

Mae’r rhan fwyaf o gynyrchiadau yma am sbel hefyd ac mae hi’n theatr dechnegol mor dda i weithio ynddi, rydych chi’n cael gweld ‘sioe go iawn’, yn gyflawn â hofrennydd yn achos Miss Saigon.

Beth sydd wedi eich syfrdanu chi am weithio yma?

Andy: Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod yna mwy nag un theatr yma, bod y Ganolfan yn elusen a bod yna cymaint o weithgareddau teuluol yn cael ei gynnal.

Tony: Y tro cyntaf cerddais i mewn i Neuadd Hoddinott y BBC doedd gennyf i ddim syniad ei bod hi yna.

Roeddwn i wrth gwrs wedi clywed amdani ond ar ôl gweld y lle hyfryd ar y tu fewn, roedd rhaid i fi gamu allan o’r adeilad i weithio allan sut y mae’n ffitio i mewn.

Sut ydych chi’n meddwl bod gwirfoddoli yn helpu?

Tony: Heddiw mae pobl yn treulio llawer o amser yn syllu ar eu ffonau symudol, felly rwy’n credu bod cael eich gorfodi i ryngweithio yn rheolaidd â phobl yn fuddiol iawn.

Wrth wirfoddoli rydych chi’n treulio llawer o amser yn cyfnewid pleserau gyda phobl, ond rydych chi o hyd yn cael rhywbeth yn ôl ohoni.

Andy: Rydw i wedi arfer a gweithio ar ben fy hun, felly mae siarad â phobl yn gyffredinol am bethau pob dydd yn dda i fi.

Tony: Rydw i o hyd yn hoffi gofyn i bobl sy’n gadael y theatr os ydyn nhw wedi cael noson dda ac mae pobl yn gwenu ac yn dweud faint y maen nhw wedi mwynhau’r sioe.

Andy: Y rhyngweithiadau bach yna sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda a’ch bod chi wedi bod yn rhan o brofiad cadarnhaol rhywun.

Beth fyddwch chi’n dweud wrth unrhyw un sydd yn ystyried gwirfoddoli?

Tony: Rhowch gynnig arni. Cewch chi gyfle i wylio pethau byddech chi byth fel arfer yn talu i weld.

Andy: Mae’n hyblyg iawn hefyd, mae’r meddalwedd sydd yn cael ei ddefnyddio i nodi eich shifft dewisol yn hawdd i’w ddefnyddio, ac fe ffeindiwch chi eich bod chi’n sylwi ar rywbeth gwahanol ym mhob perfformiad y gwelwch chi.

Rydyn ni’n edrych am wirfoddolwyr o bob math o gefndir ac oedran i helpu yma. Ewch i’n tudalen gwirfoddoli i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.

Dewch i gwrdd â rhai o’n gwirfoddolwyr hŷn,  Ian a Jane neu Morgan, sy’n un o’n gwirfoddolwyr ifancach, i ddarganfod mwy am sut y mae gwirfoddoli wedi trawsnewid eu bywydau.