Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ymyriadau Pwerus: Adlewyrchu ar y daith

Ar ôl tair blynedd o weithdai creadigol, Covid a digonedd o heriau, dyma'r artist Bethan Marlow yn adlewyrchu ar ei thaith anhygoel i gyflawni Ymyriadau Pwerus, comisiwn wedi'i harwain gan bobl ifanc.

Tair blynedd nôl, cerddais fewn i Ganolfan Soar am y tro cyntaf erioed er mwyn rhedeg 'Hwb Artistiaid' am wythnos a oedd yn cynnwys llwythi o bobl ifanc o bob cwr o Gwm Rhondda.

Roedd yn benwythnos anhygoel o sawl gweithdy creadigol yn digwydd ar yr un pryd, digonedd o bobl ifanc yn cael eu bysio a'u gyrru fewn, yn canolbwyntio a'n barod i gymryd rhan, gyda chinio ar gael i bawb a'r holl ofodau gweithdy wedi'u gosod ac yn barod i fynd.

Dim ond nawr, tair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl gweithio'n agos iawn gyda Sparc a'u tîm o weithwyr ieuenctid celfyddydol ar ein comisiwn dan arweiniad pobl ifanc Ymyriadau Pwerus, ydw i wir yn deall maint y dasg o wireddu'r 'Hwb Artistiaid' hynny.

Fel artistiaid llawrydd, cawn ein gwahodd yn aml i ymuno â theatrau ieuenctid a grwpiau celf cymunedol er mwyn rhedeg gweithdai neu arwain ar brosiect neu ddrama.

Mae gen i angerdd go iawn dros y fath yma o waith ers nifer o flynyddoedd, ond dim ond yn ystod y prosiect yma ydw i wedi cymryd yr amser i ddysgu a chael y cyfle i fod yn yr ystafell i wylio'r gweithwyr ieuenctid celfyddydol ar waith.

Mae'n hawdd iawn i ni anghofio mai'r gweithwyr ieuenctid celfyddydol sy'n arwain y gwaith ymgysylltu creadigol pob wythnos arall y flwyddyn pan nad yw'r gweithwyr llawrydd yn yr ystafell.

Roedd y syniad o Ymyriadau Pwerus ynghŷd â'r arbennig Miranda Ballin a Jason Camilleri am strwythuro proses sy'n teimlo fel ei fod yn dod o'r cwr, sy'n teimlo fel bod ganddo les pobl ifanc yn galon iddo, ac sydd hefyd yn teimlo fel rhan o'r gwaith parhaol gan weithwyr ieuenctid celfyddydol ac nid rhywbeth sy'n cael ei osod ar ben llwyth gwaith sy'n fawr yn barod.

Roedd gan bob un ohonom brofiadau ar sut ddim i'w wneud e!

Boed e'n fi'n teimlo fy mod i wedi cael fy mharasiwtio fewn ac allan o gymuned, neu bobl ifanc yn teimlo fel eu bod wedi'u tynnu allan o'u sesiynau drama a'u gosod ar lwyfan proffesiynol gyda chwmni proffesiynol, er mwyn iddynt ddweud "sefwch yma, dwedwch hyn, mae'n rhaid i chi ddod i ymarferion bob dydd am oriau hir.”

Neu weithwyr ieuenctid celfyddydol a oedd fod cydweithio gydag artistiaid ond yn ffeindio'u hunain yn gwneud dim bod ond cyfri pennau ar fysiau a darparu cinio.

Efallai bod y cynnyrch ar y diwedd, sef cael pobl ifanc yn cymryd rhan ar lwyfan mewn cynhyrchiad proffesiynol, yn edrych yr un peth i aelod o'r gynulleidfa, ond roedden ni'n hollol benderfynol o ganolbwyntio ar broses a oedd yn teimlo'n bositif, yn annog ac wrth gwrs yn llawn hwyl!

Os ydyn ni am agor drysau creadigrwydd a'r celfyddydau i bobl ifanc, y peth pwysicaf i'w amddiffyn yw mwynhad y peth ei hun.

Os ydyn ni'n pwyso'n drwm a theimlo'n amddiffynol am y cynhyrchiad fel ein bod yn dechrau gwaeddi cyfarwyddiadau at y bobl ifanc hyn (sydd, wrth gwrs, ddim yma ar gyflog) er mwyn iddo fod yn berffaith, nad ydyn ni wedi colli'r pwynt?

Neu ife'r cwestiwn cywir yw: beth yw'r pwrpas o wahodd pobl ifanc i gymryd rhan? Ife i annog y genhedlaeth nesaf o artistiaid neu oherwydd byddant yn edrych yn wych yn eich sioe?

Gyda'n gilydd, ac rwy'n golygu hynny yn y modd fwyaf o ddifrif, rydyn ni wedi creu 'Ymyriadau Pwerus' sy'n gasgliad o berfformiadau, mewn amryw o ffurfiau celf, lle mae'r bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid celfyddydol sydd ynghlwm oll wedi ymateb i'r gair "pŵer".

Pan ddewch chi i wylio Ymyriadau Pwerus rwy'n dychmygu y byddwch yn mwynhau'r darnau i gyd nid yn unig oherwydd eu bod yn weithiau ardderchog, ond oherwydd bod gennych ychydig o fewnwelediad i'r broses y tu ôl iddynt.

Fe wyddoch chi fod y gwaith wedi'i dychmygu gan y bobl ifanc, wedi'i grefftio a'i lunio a'i datblygu dros ddwy flynedd o sesiynau wythnosol gan y gweithwyr ieuenctid celfyddydol talentog sydd wedi mynnu bod y bobl ifanc yn aros ar y rheng flaen ar hyd y daith nes iddynt dderbyn cymeradwyaeth am eu creadau.

Ac wedyn, yr wythnos ganlynol, byddwn yn dychwelyd i'n sesiynau wythnosol oherwydd mae gwaith ieuenctid celfyddydol yn bodoli, cyn ac ar ôl i'r sioe gymryd lle.

Bethan Marlow

Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghyn

Cefnogwch ni heddiw