Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Pedwar actor yn dal actor arall yn yr awyr ar ei ochr

Yn ymarfer: The Boy With Two Hearts

Mae ymarferion wedi dechrau ar gyfer The Boy With Two Hearts, ein cynhyrchiad gyntaf a wnaed yng Nghymru ers i ni ail-agor ein drysau.

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r brodyr Hamed a Hessam Amiri i ddod a stori anhygoel eu teulu i'n Stiwdio Weston ym mis Hydref.

Yn 2000, bu teulu'r Amiri yn ffoi Affganistan ar ôl cael eu herlyn gan y Taliban, a'u taith hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y cyflwr ar galon eu mab hynaf Hussein, a oedd yn peryglu ei fywyd.

Mae eu stori yn un o obaith, o Affganistan i Gymru. Dydyn ni methu aros i'w rannu gyda chi.

Cwrdd â'r ysgrifenwyr

Ganwyd Hamed Amiri, awdur The Boy With Two Hearts, yn Affganistan. Mae e'n gweithio ar hyn o bryd fel arweinydd hŷn yn y sector dechnegol tra'n hefyd yn dylanwadu yn y sector addysg.

Cennad newydd bywyd Hamed yw ei addewid i'w frawd Hussein, i rannu ei stori gyda chynulleidfa ehangach a sicrhau dyfodol i'w etifeddiaeth. Gwobrwywyd ef â gwobr cynfyfyrwyr gan Brifysgol De Cymru am 'ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf' yn 2016.

Mae brawd ieuengaf Hamed a chyd-awdur y ddrama, Hessam Amiri yn swyddog marchnata digidol gyda'r Royal Mint. Mae e hefyd yn Llywodraethwr ar gyfer University Hospitals Bristol & Weston ac yn llysgennad ar gyfer yr elusen Daring to Dream.

Mae eu stori wedi'i addasu i'r llwyfan gan Phil Porter, dramodydd a libretydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei waith yn cynnwys theatr, opera, radio a theledu, gyda chynyrchiadau yn y Royal Exchange ym Manceinion, y Theatre Royal yn Northampton, y Unicorn Theatre a'r Royal Opera House.

Cefnogi ein timau

Mae stori anhygoel teulu'r Amiri, yn ffoi erledigaeth gan y Taliban ar ôl i'w mam Fariba areithio'n gyhoeddus o blaid rhyddid i fenywod Affganaidd, hyd yn oed yn fwy teimladwy oherwydd y digwyddiadau presennol yn Affganistan.

Drwy gydol y cynhyrchiad hwn, mae teulu'r Amiri, y tîm cynhyrchu a'n cast yn derbyn cefnogaeth drwy sesiynau grŵp ac yn ôl y galw gydag ymarferydd lles artistiaid profiadol. Maent yn creu gofod ac amser i adlewyrchu'n bersonol a phroffesiynol ar eu perthnasoedd â chyd-destun y sioe, yn ogystal â'r digwyddiadau sy'n datblygu yn Affganistan ar hyn o bryd.

Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar ymwybyddiaeth ffoaduriaid ar gyfer staff Canolfan Mileniwm Cymru, er mwyn i ni gefnogi'r tîm sy'n gweithio ar y cynhyrchiad hwn yn well. Arweinir y rhain gan Oasis Cardiff, elusen sy'n rhoi croeso cynnes Cymreig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Mae The Boy With Two Hearts yn ymddangos yn ein Stiwdio Weston ar 2 – 23 Hydref