Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Fel rhan o’n rôl fel canolfan gelfyddydau genedlaethol flaenllaw, rydyn ni’n meithrin ac yn hwyluso cysylltiadau ar draws y sector diwylliannol a’r celfyddydau. Mae cydweithio a chefnogi eraill drwy bartneriaethau yn ein galluogi i fwyhau ein heffaith.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol bob blwyddyn i estyn cyfleoedd a manteision ymgysylltu â’r celfyddydau a diwylliant i gynifer o bobl â phosibl.

Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro ac amrywiaeth o sefydliadau addysg, sgiliau, cymunedol a chreadigol ledled Cymru a thu hwnt.

Partneriaethau addysg a dysgu creadigol

Partneriaethau gwerthfawr ag ysgolion lleol

Fel rhan o’r rhaglen yma gall myfyrwyr gael mewnwelediad unigryw i’r diwydiannau creadigol. Mae’r ysgolion yn cynnwys: Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Gynradd Mount Stuart ac Ysgol Gynradd Grangetown.

Partneriaethau cymunedol
  • Butetown Arts and Cultural Association (BACA) – rydyn ni’n eu cefnogi gyda charnifal blynyddol Trebiwt
  • Voices from Care Cymru
  • Wales Tamil Sangam
PARTNERIAID CYNHYRCHU 

Rydyn ni’n cydweithio ag amrywiaeth o bobl greadigol a sefydliadau gyda’n gwaith cynhyrchu. Mae rhai o’n cyn-bartneriaid a phartneriaid presennol yn cynnwys:

Partneriaethau yn y sector a chenedlaethol

Theatrau rhanbarthol

Rydyn ni’n ymgysylltu â rhwydwaith o theatrau rhanbarthol yn rheolaidd er mwyn cydweithio a rhannu arferion gorau, heriau allweddol a chyfleoedd.

Sefydliadau preswyl diwylliannol

Ymhlith ein partneriaid eraill mae ein wyth sefydliad preswyl diwylliannol sy’n datblygu statws Canolfan Mileniwm Cymru fel campws diwylliannol.