Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n credu yng ngrym trawsnewidiol y celfyddydau i greu newid cadarnhaol. Mae ein cynyrchiadau, ein hybiau dysgu a’n rhaglen o theatr, cabaret a chelf yn tanio dychymyg pawb.

Gwyliwch ffilm am ein gwaith gyda phobl ifanc, artistiaid a chymunedau:

Fel canolfan gelfyddydau a dysgu genedlaethol, ein nod yw cyfrannu at ddiwylliant Cymru yn ei holl amrywiaeth, meithrin doniau a phobl ifanc Cymru mewn ystod o sgiliau’n ymwneud â’r celfyddydau, a chynnig llwyfan i’n hartistiaid cenedlaethol adrodd eu stori.

Fel gwlad ddwyieithog, rydyn ni’n dathlu ac yn hyrwyddo artistiaid Cymraeg, drwy gyflwyno a chynhyrchu perfformiadau yn ddwyieithog.

Fwy nag erioed, rydyn ni’n cydweithio gyda phobl ifanc, artistiaid, aelodau o’r gymuned, sefydliadau diwylliannol a’n cynulleidfaoedd i gyd-greu cartref i’r celfyddydau yng Nghymru sy’n llawn llawenydd ac sy’n berthnasol i bawb.

Cynhyrchu creadigol: Rydyn ni’n creu theatr, gwyliau, digwyddiadau a phrofiadau digidol sy’n difyrru, yn ysgogi, ac yn ysbrydoli ein cynulleidfaoedd gartref a’r tu hwnt. Yn rhan o’n cenhadaeth i feithrin doniau, rydyn ni hefyd yn cynnig llwyfan i artistiaid lleol er mwyn cefnogi eu taith yn y diwydiant.

Hyd yma, rydyn ni wedi cynhyrchu/cyd-gynhyrchu 14 sioe yn llwyddiannus, ac rydyn ni wrthi’n datblygu cyfres gyfoethog o gynyrchiadau gydag amrywiaeth o artistiaid, awduron, cyfarwyddwyr a’n cymdeithion creadigol sydd oll â stori gref i’w hadrodd.

Gwnaeth The Boy with Two Hearts, stori o obaith o Affganistan i Gymru, swyno cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd cyn trosglwyddo i’r National Theatre yn Llundain lle cafodd ganmoliaeth anhygoel. Gwnaethom ni sgwrsio â’r brodyr Hamed a Hessam Amiri am eu taith i’r byd cynhyrchu theatr a’r broses o drosi stori arbennig eu teulu o’r dudalen i’r llwyfan.

Rhaglen ddysgu: Rydyn ni’n credu bod gan ddiwylliant rym i godi dyheadau pobl sydd wedi profi mwy o heriau na’r mwyafrif, ac i greu profiadau sy’n cyfoethogi bywyd.

Mae ein rhaglen ddysgu’n targedu pobl rhwng 11 a 25 oed, ac mae’n cynnwys profiadau dysgu digidol a gweithdai a chyrsiau sgiliau ymarferol, sydd wedi’u cyd-greu gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.

Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n rhoi perchnogaeth ar y gofodau yma i’r genhedlaeth nesaf, a rhyddid i adrodd eu stori ac i fod yn greadigol yn y ffordd maen nhw’n ei dewis.

Drwy ymgysylltu â’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw, rydyn ni wedi eu galluogi i ddweud wrthym sut i ddylunio ein gofodau creadigol a pha fath o gyrsiau y gallent eu harchwilio.

Rydyn ni’n cynnal cyrsiau ac yn rhedeg ein stiwdios Radio Platfform drwy gydol y flwyddyn, ac rydym wedi cyflwyno cyrsiau theatr ieuenctid, creu gwisgoedd, graffiti a chelf stryd ymhlith nifer o lwybrau creadigol eraill.

Ymgysylltu cymunedol: Mae cynulleidfaoedd a chymuned wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud; rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu gyda’n cymuned leol a chenedlaethol, ond rydyn ni hefyd yn gwreiddio eu lleisiau amrywiol yn sylfaen ein rhaglen.

Rydyn ni’n rhoi cyfle i gymunedau gynllunio a churadu eu digwyddiadau eu hunain yn ein gofodau cyhoeddus, ac i berfformio mewn digwyddiadau nodedig fel Llais.

Rydyn ni’n rhoi llwyfan iddyn nhw gael adrodd straeon amdanyn nhw eu hunain, am eu hanes, ac am eu diwylliannau. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod modd i unrhyw un a phawb gael mynediad at ein sioeau, drwy docynnau cymunedol sy’n rhoi tocynnau am ddim neu â chymhorthdal i oddeutu 1,000 o grwpiau cymunedol ac unigolion, a 6,500 o blant ysgol ac athrawon bob blwyddyn.

Rydyn ni’n ymrwymedig i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau. O Ddydd Gŵyl Dewi i’n digwyddiad Iftar, rydyn ni am i bobl amrywiol Caerdydd a de Cymru deimlo bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i bawb.

Mae gennym ein Lolfa, gofod cymunedol rhad ac am ddim lle y gall pobl ymlacio, cwrdd â ffrindiau, dod o hyd i weithgareddau i blant a defnyddio ein llyfrgell a phantri cymunedol. Mae hefyd yn gartref i nosweithiau barddoniaeth a chlwb llyfrau sy’n cael eu trefnu gan y gymuned, gan gynyddu’r digwyddiadau arbennig rhad ac am ddim rydyn ni’n eu cynnig a hybu’n cred mai nid adeilad yn unig yw Canolfan Mileniwm Cymru, ond adnodd i’w ddefnyddio a’i rannu.

Mae ein lleoliad Cabaret hefyd yn gartref i Blac Porffor yr eicon lleol Patti Flynn, un o aelodau mwyaf poblogaidd y gymuned.

 

Rhaglen theatr: Mae Theatr Donald Gordon yn croesawu cynyrchiadau o ansawdd uchel ac sydd wedi ennill gwobrau yn syth o’r West End. Gwyliodd dros 105,000 o bobl y cynhyrchiad syfrdanol o Disney’s The Lion King, a gwnaeth 66,000 o bobl fwynhau’r fersiwn newydd rhyfeddol o Les Misérables.

Mae dewis calendr amrywiol o sioeau cerdd (My Fair Lady, Heathers, Six, The Color Purple), dramâu (The Play That Goes Wrong, The Ocean at the End of the Lane, War Horse) a sioeau dawns (Matthew Bourne’s Swan Lake, Dada Masilo’s The Sacrifice, Rambert Dance in Peaky Blinders) yn golygu ein bod yn darparu cynnig artistig i bobl Cymru na allant deithio i ddinasoedd theatr fel Llundain i weld rhai o’r cynyrchiadau gorau sydd ar gael.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno sawl tymor o waith rhagorol i dros 25,000 o brynwyr tocynnau y flwyddyn.

Cabaret: Mae ein rhaglen o gomedi, cabaret, drag, cerddoriaeth a gair llafar yn cyflwyno’r gwaith arbrofol a llwyddiannus gorau ym myd theatr a pherfformio cyfoes.

Gwnaethom ni agor ein gofod Cabaret pwrpasol sy’n darparu cartref i bobl greadigol o Gymru ac yn dod â pherfformwyr o bobman i’r Bae i rannu eu talentau.

Mae’r rhaglen yn croesawu perfformwyr o gymunedau lleol, dwyieithog a LHDTC+ i gynnig llwyfan i bawb.

Profiadau rhyngweithiol: Mae profiadau creadigol yn ymwneud â mwy na gweld sioe, maent hefyd yn ymwneud ag archwilio ffurfiau newydd o adrodd straeon. Mae Bocs, gofod penodedig ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti estynedig (XR) rhad ac am ddim, ar agor yn ddyddiol.

Mae rhaglen newidiol o brofiadau yn rhoi mynediad i ymwelwyr i dechnoleg a phrofiadau arobryn. Rydyn ni wedi cynhyrchu sioeau ac arddangosfeydd i ategu ein cynyrchiadau fel Ripples of Kindness ar gyfer The Boy with Two Hearts a The Museum of Nothingness ar gyfer The Making of a Monster, a gwnaethom ni hyd yn oed ddod ag efelychydd awyren bywiog i garreg ein drws.

Gofodau cyhoeddus: Ynghyd â chroesawu ein cymuned leol i ddefnyddio ein gofod, i gynnal digwyddiadau, i gyfrannu at arddangosiadau ac i berfformio ar ein llwyfannau, rydyn ni hefyd yn curadu celf gyhoeddus gyffrous i ysbrydoli pawb.

Earth sculpture

Arddangoson ni ddau gerflun godidog gan yr artist Luke Jerram, sef Museum of the Moon a Gaia yng nghyntedd Glanfa. Nadolig diwethaf gwnaethom ni gynnal arddangosfa Azadi gan yr artist Iranaidd o Gymru Naz Syed o Ziba Creative a oedd yn dathlu cymuned a diwylliant a threftadaeth Bersiaidd drwy bompomau prydferth o undod, diolchgarwch a gobaith o bob cornel o’r byd. Gwnaeth y gosodwaith drawsnewid ein hadeilad cyfan, a gwnaethom gynnal digwyddiad Yalda yn ardal y Glanfa gyda cherddoriaeth fyw, DJ cerddoriaeth ffync Bersiaidd, geiriau llafar, gweithdy crefftiaeth, sioe ffasiwn a mwy.

Pan wnaethom ni drawsnewid ein hardal blaen y tŷ, roeddem ni am i artistiaid lleol a phobl greadigol Gymraeg fod wrth wraidd y gofod newydd, ac un ffordd y gwnaethom ni hynny oedd drwy gomisiynu Llio James, dylunydd a gwehydd llaw o Geredigion, i greu clustogau prydferth. Wedi’u dylunio yn ei stiwdio yn Y Sblot, cynhyrchodd Llio dros 60 o glustogau y gall gwesteion eu mwynhau, yn ogystal â darnau wal ffabrig hefyd.

Darganfyddwch yr holl ffyrdd y gallwch chi gefnogi ein gwaith.