Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu dawnsfeydd anhygoel a chynhwysol sy'n ymgysylltu â chynulleidfaoedd dros y byd.
Mae CDCCymru’n perfformio ledled Cymru, y DU a dros y môr gan dywys pobl ar siwrneiau o ddarganfyddiaeth, cynnig cyfleodd i gymryd rhan, trafod, gwylio a dysgu am ddawns, eu hunain a’r byd.
Tŷ Dawns
Yn ogystal â rhoi cartref i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, mae’r Tŷ Dawns yn ganolfan cynhyrchu byd-enwog ac yn gartref a chanolbwynt i’r gorau sydd gan Gymru i’w chynnig i fyd dawns.

Tŷ Dawns

Ioga


TUNDRA
Mae’r lleoliad 100 sedd yn wagle perfformio agos atoch sy’n cynnal perfformiadau’r cwmni, arddangos talent newydd a chynrychioli canolbwynt creadigol i ddawns.
Caiff y Tŷ Dawns hefyd ei ddefnyddio fel gwagle ymarfer i artistiaid; lle i gynnal gweithdai dawns a gwersi dawns oedolion i’r cyhoedd gan gynnwys ‘Dance for Parkinsons’; ioga, dawns gyfoes a gwersi bale.