Hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru.
Rydym yma
- i ddod â cherddoriaeth Cymru i gynulleidfaoedd ar draws ein cenedl, ac i weddill y byd.
- i ddiogelu cynhysgaeth cerddoriaeth Cymru o’r gorffennol ac i feithrin cerddoriaeth Cymru y presennol ac i’r dyfodol.
- i gefnogi’r sector proffesiynol a’r rheini nad ydynt yn broffesiynol, perfformwyr a chynulleidfaoedd, i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Cymru.
Yn y sector proffesiynol
Rydym yn gweithio ar draws Cymru gyda chyfansoddwyr, perfformwyr a sefydliadau. Mae gennym stiwdio recordio fewnol, label recordio (Recordiau Tŷ Cerdd) a gwasgnod, llyfrgell hurio a’n casgliad ein hunain o gerddoriaeth Gymreig.
Hefyd mae gennym gysylltiad gwerthfawr â Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n dal archif Tŷ Cerdd; ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio â’r Llyfrgell i ddigideiddio gweithiau pwysig o’u casgliad (gyda llawysgrifau ar gael i bawb eu gweld ar discoverwelshmusic.com ac argraffiadau perfformio newydd o siop ar-lein Tŷ Cerdd).
Gyda’r rheini nad ydynt yn broffesiynol
Mae gennym aelodaeth sy’n cynnwys cymdeithasau a grwpiau o bob cwr o Gymru – rydym yn darparu arbenigedd a chefnogaeth hyrwyddol iddyn nhw, yn eu helpu i gysylltu â chyfansoddwyr a chynulleidfaoedd a darparu gwasanaethau ar eu cyfer (megis llyfrgell hurio, cyngor, pecynnau gostyngol a nodiadau rhaglenni).
Cyllid
Rydym yn gweinyddu pum maes o gyllid y Loteri (ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru) a thrwy’r rhain rydym yn galluogi amrywiaeth o waith mewn.