Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae cynulleidfaoedd a chymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma rai o'r mentrau rydym wedi ymrwymo i'w cyflawni.

Rhoi llwyfan i ystod eang o leisiau

Rydyn ni’n datblygu rhaglen fwy amrywiol, gan gynnwys gwaith gwreiddiol gan ac ar gyfer ein cymunedau, a hynny ar ein llwyfannau, yn ein gofodau cyhoeddusac ar draws ein platfformau digidol, gan gysylltu cynulleidfaoedd mewn ffordd ystyrlon

Adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n cydweithio gyda nhw

 Rydyn ni’n  buddsoddi mewn adeiladu gweithlu sy’n fwy amrywiol a chynrychiadol, gweithlu sy’n dathlu ac yn annog gwahaniaeth.

Rhoi cyd-gynhyrchu wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

Rydyn ni’n dod o hyd i gyfleoedd i adeiladu llais cymunedol a chynrychiolaeth, fel bod modd i gymunedau wneud penderfyniadau.  

Sicrhau hygyrchedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth fel bod modd i unrhyw un gael mynediad at ein gwaith ar bob llwyfan, boed hynny drwy ein cynllun tocynnau cymunedol, perfformiadau hygyrch neu ein nod o ddatblygu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy:

Chwalu rhwystrau

Rydyn ni’n creu cyfleoedd, hyfforddiant a mentoriaeth ac yn datblygu cyfleoedd gwirfoddoli anffurfiol sy’n adeiladu perthynas a dealltwriaeth well rhyngom ni a’n cymunedau.

Creu gofod

Wasteless African Supper Club

Trwy roi cyfleoedd i gymunedau gynllunio, curadu a pherfformio mewn digwyddiadau cymunedol, yn ein gofodau cyhoeddus ac mewn digwyddiadau fel Llais, rydyn ni’n creu gofod i bobl rannu storïau am eu hunain, eu hanes a’u diwylliant.

Cysylltu â chynulleidfaoedd

Drwy ein cynllun tocynnau cymunedol rydyn ni’n rhoi’r cyfle i bobl sydd ddim fel arfer yn ymwneud â’r celfyddydau i gael yr un cyfleoedd â’r rheiny sy’n mynychu perfformiadau’n aml.

Trwy ein llysgenhadon cymunedol rydyn ni’n sicrhau bod cymunedau yn rhan o’r sgwrs am y gwaith rydyn ni’n ei greu a’i gyflwyno.

Cael ein harwain gan y gymuned

Rydyn ni’n credu mewn dull o weithio sy’n ffafrio datblygiad cymunedol, gyda chyd-gynhyrchu wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwaith rydyn ni’n ei greu yn berthnasol.

Gyddwn nad oes gennym ni bob ateb eto, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld lle fydd cymunedau’n mynd â ni nesaf ar ein siwrnai.

Rydyn ni eisoes wedi:

  • Cefnogi’r cymunedau yn ein milltir sgwâr i greu eu storïau eu hunain a chyflwyno’u gwaith drwy garnifal, cerddoriaeth ac adrodd stori. 
  • Darparu cyfleoedd i artistiaid yn y gymuned i berfformio yn ein Gwleddoedd Cymunedol a datblygu gwaith yn ein rhaglenni o Waith ar Waith.  
  • Ailagor perfformiadau cymunedol yn Glanfaer mwynannog pobl i rannu eu gwaith.  
  • Dechrau gweithio gyda’n llysgenhadon i ddylunio cynllun tocynnau sy’n gweithio iddyn nhw a’u cymunedau.
  • Sicrhau bodmwy o docynnau cymunedol ar gael drwy ddatblygu perthynas gyda chynhyrchwyr, a’u hannog i gefnogi’rfenter yma.  
  • Ymrwymo i dyfu ein cynnig o docynnau am £2, £4 a £8 er mwyn croesawu cynulleidfaoedd newydd. 
  • Creu cyfleoedd i ddangos gwaith mewn gofodau cyhoeddus. A hynny drwy fodel cyllidebu cyfranogol lle mae modd i gymunedau wneud y penderfyniadau am y gwaith sy’n cael ei ddatblygu.  
  • Cydweithio â TempoTimeCredits i adeiladu a thyfu ein rhwydweithiau a chydweithio ag unigolion i ddatblygu ein rhaglen.  
  • Datblygu partneriaeth â Job CentrePlusparthed mentoriaeth a sicrhau bod datblygu sgiliau bywyd yn rhan o’n rhaglen.  
  • Ymrwymo i agor ein Theatr Donald Gordon i greu digwyddiad blynyddol sy’narddangos Perfformiadau Cymunedol ac sy’n agored i bawb ei fwynhau. 
  • Dechrau gweithio tuag at sicrhau bod cynrychiolaeth o’r gymuned ar lefel Bwrdd.