Camwch i fyd hudol a dychmygus gyda premiere byd y sioe gerdd newydd a chyffrous, Bedknobs and Broomsticks, sy’n seiliedig ar y ffilm Disney glasurol.
Gyda chaneuon gwreiddiol gan y brodyr Sherman (Mary Poppins, The Jungle Book, Chitty Chitty Bang Bang ), yn cynnwys Portobello Road, The Age of Not Believing, The Beautiful Briny, a cherddoriaeth a geiriau newydd gan Neil Bartram a llyfr gan Brian Hill. Daw’r gwneuthurwyr theatr arobryn Candice Edmunds a Jamie Harris â Bedknobs and Broomsticks yn fyw ar y llwyfan.
Pan fydd plant amddifad teulu Rawlins yn cael eu danfon o Lundain i fyw gyda’r Eglantine Price ddirgel yn ystod y rhyfel, heb yn wybod iddyn nhw mae anturiaethau mawr ar y gorwel. Ar ôl darganfod bod Eglantine yn hyfforddi fel gwrach, mae’r plant yn ymuno â hi i chwilio am hud i drechu’r gelyn unwaith ac am byth. Gyda ‘bedknob’, ‘broomstick’ a gwely hudol sy’n hedfan, maent yn teithio o’u cartref yn Portobello Road at y môr, gan gyfarfod sawl ffrind newydd ar eu siwrne.
Mae’r sioe gerdd hudol newydd yma’n hedfan i Gaerdydd am wythnos o berfformiadau yn unig, felly archebwch eich tocynnau heddiw. Mae’n amser i gredu.
Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau a Sad 2.30pm
CYNIGION AELODAU
Gostyngiad o £10 ar gyfer 1 Chwefror (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw – Iau (ar y 2 bris drutaf).
Trefnu ymweliad grŵp.
DAN 16 OED
Gostyngiad o £4, Maw - Iau (ar y 2 bris drutaf).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Pwysig: Diogelwch a gofynion Covid
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bawb sy’n mynychu’r perfformiad hwn ddangos Pàs Covid y GIG neu dystiolaeth canlyniad prawf Covid negyddol ynghŷd ag ID llun. Darllenwch ein cwestiynau cyffredin i weld sut i gael eich un chi.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.