Beth sy’n digwydd pan mae dihiryn o libertiniad jazz yn cyfarfod uwchnofa strip-bryfocio gyfoes? Blues and Burlesque.
Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn Perth ac Adelaide, mae’r sioe cabaret gerdd fyw arobryn yn ôl o West End Llundain gyda’i hamrywiaeth ddisglair.
Gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Pete Saunders (Dexy’s Midnight Runners) a stripio gan y nodedig Belle de Beauvoir (‘The Sparkling Diamond of Burlesque’ (BBC Radio)), mae’r cynhyrchiad arbennig yma’n siŵr o roi’r sioe amrywiaeth yn ôl yn ei iawn le, gyda pherfformiadau hefyd gan westeion dirgel yn cynnwys sêr cabaret ac egin-artistiaid arbennig.
"The blues are soulful, burlesque thrusting and the comedy plentiful"
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.