Ymunwch â ni am noson anhygoel yn arddangos amrywiaeth o dalent boylesque, wedi’i churadu a’i chyflwyno gan Joshua Hubbard gyda’r seren wadd arbennig Virgin X.
Hefyd yn cynnwys Mimi the Most, Tyrone a Joe Sutherland.
Virgin X
Artist recordio amlddisgyblaethol a pherfformiwr yw Virgin X, sy’n dod o Oregon, UDA yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Maen nhw wedi gweithio yn y byd cabaret a draf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn ddiweddar maen nhw wedi dod yn artist recordio ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf The 4 Corners of X ar ddiwedd 2021. Mae Virgin hefyd wedi ymddangos yn Gay Times, Vogue, Hunger, Artplay Magazine, Marie Claire, Feroce Magazine a The Times of India, ac maen nhw wedi ymddangos ar y teledu sawl gwaith.
Nod gwaith Virgin, a gafodd eu geni a’u magu yn Gatholig mewn tref fach yn America, yw herio (cam)syniadau sefydliadedig am rhywedd, hunaniaeth, derbyn eich hunan a sut mae pobl yn canfod, yn ymddwyn yn byd o’u cwmpas ac yn symud drwyddo.
Mimi the Most
Mimi the Most, perfformiwr Glamazonaidd sy'n fwyaf adnabyddus am yr #escandalo! o orfod gadael y Royal Ballet o dan gwmwl ar ôl i sibrydion honedig ei bod hi’n ferch ddrwg iawn ledaenu yn y cwmni (ond mae’n siŵr mai ambell a*t genfigennus oedd yn gyfrifol am hynny).
Tyrone
Tyrone – EICONIG / TALENTOG / YW’R FOMENT / ...6.5/10 yn ôl Grindr
Mae’r artiste awyrol poblogaidd rhyngwladol Tyrone Herlihy yn cyflwyno dim byd llai na more agos i berffeithrwydd â phosibl. Gallwch chi ddigwyl llawer o groen a lefel cywilyddus o sbarcl. Dewch yn llu, gwisgwch eich dillad gorau, gwnewch sŵn a chofiwch sleidio i mewn i'r DMs!
Joe Sutherland
Mae Joe Sutherland yn ddigrifwr ac yn llysgennad brand Greggs. Stand-yp, actio, ysgrifennu, dylanwadu, does dim byd wnaeth e ddim meddwl am wneud a hyd yn oed rhoi cynnig arno. Mae’n perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol, weithiau ar y we a weithiau ar y teledu (rhyngrwyd natur). Mae ei ymddangosiadau diweddar yn cynnwys Hypothetical ar Dave a Eastenders ar y BBC. Gwir yr.
Joshua Hubbard
Joshua Hubbard – coreograffydd, cyfarwyddwr, mynnwr sylw, ac erbyn hyn, cynhyrchydd. Wedi gweithio gyda phobl fel Elton John, Charli XCX, Roisin Murphy, Years and Years, Hercules and Love affair, a Danny Beard.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.