Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

LLAIS 2024: CYHOEDDI’R ACTAU CYNTAF

MAE RHESTR DDYRCHAFOL O LEISIAU BYD-EANG ar fin creu cynnwrf ym MAE CAERDYDD. LLAIS: un o wyliau mwyaf unigryw’r byd sy’n canolbwyntio ar yr offeryn rydyn ni i gyd yn ei rannu – Y LLAIS

Bydd byd o gerddoriaeth a lleisiau rhyfeddol yn creu cynnwrf ym Mae Caerdydd, mewn gŵyl heb ei thebyg.

Darganfyddwch y rhaglen

Gwahoddir pawb sy’n dyheu am gysylltiad a phrofiad llawen a chyfoethog yr hydref yma i ofodau a neuaddau awditoriwm sydd gyda’r brafiaf o’i math yn Ewrop, i ddianc i ymennydd cerddorol cynhyrfus CATE LE BON, i godi uwchlaw ffiniau’r ddaear gyda swyngan De Asiaidd GANAVYA, neu i ymgolli yng ngrŵfs hypnotig yr anialwch gyda’r eicon Somalïaidd SAHRA HALGAN. O harmonïau digyfeiliant SWEET HONEY IN THE ROCK a moethusrwydd micro-donyddol  LES MYSTERE DES VOIX BULGARES i gôr chwarelwyr â chyfeiliant offerynnau wedi’u creu o lechen a derw… Gŵyl Llais yw’r lle.  

 

Uchafbwyntiau gŵyl Llais:

Perfformiad byw prin gan Joan As Police Woman yn perfformio caneuon o’i darpar albwm newydd.
Jazz trosgynnol ac arbrofion atmosfferig gan y lleisydd a aned yn Efrog Newydd a’i fagu yn Tamil Nadu, Ganavya.
Roc anialwch hypnotig gan y gantores a’r brwydrwr dros ryddid Somalïaidd Sahra Halgan.
▲ Bydd yr arwyr a capella Sweet Honey in the Rock yn ymuno â’r ŵyl ar gyfer yr unig ymddangosiad ym Mhrydain ganddynt yn 2024.  
▲ Mae Le Mystère Des Voix Bulgares yn dychwelyd gyda "Voices and Strings" mewn cydweithrediad â’r cyfansoddwr Georgi Andreev a Quarto Quartet. 

▲ Bydd y lleisydd sean-nós Gwyddelig sydd wedi’i enwebu am wobr Grammy Iarla Ó Lionáird yn ymuno â’r pianydd a’r cyfansoddwr Cormac Mccarthy.
▲ Tafod arianemynau coll, dathliad o wreiddiau cerddoriaeth gysegredig Cymru a thaith i 50 o gapeli dan arweiniad y gantores werin Lleuwen
Le Gateau Chocolat - Emynau Negroaidd a gwychder Cwiar Du gyda’r canwr opera a’r difa cabaret heb ei debyg.
Colored: The Unsung Life Of Claudette Colvin - profiad ymdrochol wedi’i addasu o stori Tania de Montaigne am ddewrder a herfeiddiad ifanc yn America yn oes yr arwahaniad.
▲ Bydd Welsh Music Prize yn rhan o’r ŵyl unwaith eto eleni gyda dathliad o gerddoriaeth o Gymru sydd wedi’i chreu dros y flwyddyn ddiwethaf. 

“Fittingly for a venue situated on the edge of a harbour that has for centuries rung with voices from across the world - the richly diverse and global line-up assembled for this year's festival celebrates the incredible versatility of the human voice and its power to move and heal.

The perfect expression of the inscription cut so boldly into the copper facade of the Wales Millennium Centre that speaks of an industrial past, a poetic soul and a shining future, Llais says so much about who we are and who we could be."

Graeme Farrow, Meddai Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru

Gallwch chi gael yr holl newyddion diweddaraf am Llais drwy ein dilyn ni ar Facebook, Twitter neu Instagram. 

GWRANDEWCH AR HON: RHESTR CHWARAE LLAIS 2024