Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Fel elusen sy’n canolbwyntio ar y gymuned, rydyn ni am annog pobl o bob cefndir ac o bob oed i ymgymryd yn fwy â’r celfyddydau ac ymuno â’n cynllun gwirfoddolwyr gwych.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lle ysbrydoledig, cymhellol a hynod o werth chweil i weithio a does byth eiliad ddiflas yma.

Drwy wirfoddoli yma byddwch chi’n dysgu sgiliau newydd ac yn dod yn rhan o gymuned ddifyr a dymunol gan gael profiad o’r celfyddydau.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â 200 o wirfoddolwyr sy’n ein cefnogi i danio’r dychymyg.

Os ydych chi’n mwynhau cyfrannu at lawenydd pobl eraill ac yn barod am her, ewch amdani!

Carol, gwirfoddolwr

Dysgwch sut beth yw gwirfoddoli gyda ni yma...

Stori Carol

Ers faint o amser ydych chi wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?

Tair blynedd.

Pam wnaethoch chi benderfynu bod yn wirfoddolwr?

Cefais fy magu yn Llundain, lle roedd fy nhad yn gerddor gyda Sadlers Wells Opera and Ballet Company (English National Opera bellach). Es i i weld fy opera gyntaf pan oeddwn yn dair oed ac mae mynd i’r theatr i weld pob math o berfformiadau wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers hynny – pleser dwi wedi bod yn falch i’w rannu â fy mhlant. Hyd yn oed pan roedd arian yn brin roeddwn i’n blaenoriaethu ymweliadau â’r theatr ar gyfer y teulu pryd bynnag y gallwn i, fel roedd fy rhieni wedi’i wneud i mi. Pan ddes i i Gaerdydd yn gyntaf roedd rhaid i mi deithio i Fryste i weld llawer o gynyrchiadau ac roeddwn i wrth fy modd pan agorodd Canolfan y Mileniwm a hyd yn oed mwy felly pan es i i fy mherfformiad cyntaf mewn theatr mor brydferth. Pan wnes i ymddeol roeddwn i am ddod o hyd i rôl wirfoddol a oedd yn fy ngalluogi i roi yn ôl i’r celfyddydau ac i’r theatr yn benodol, sydd wedi rhoi cymaint i mi. Gwnes i gais i fod yn wirfoddolwr a dwi byth wedi difaru’r penderfyniad hwnnw, yn enwedig pan ddysgais i am y gwaith helaeth sy’n cael ei wneud i annog a datblygu doniau pobl ifanc o bob cefndir.

Dywedwch wrthym am brofiad cofiadwy rydych chi wedi’i gael fel gwirfoddolwr.

Ni fydda i byth yn anghofio’r tro cyntaf i mi weithio fel tywysydd ar ôl i’r adeilad gau am y tro cyntaf yn ystod y pandemig. Roedd yn gynhyrchiad awyr agored o Alice in Wonderland i bobl o bob oed. Dyna oedd y tro cyntaf i mi glywed cerddoriaeth fyw ers amser hir iawn ac roedd yr ymateb emosiynol a’r llawenydd roeddwn i’n teimlo yn amlwg ar wynebau pawb a oedd yno. Roedd yn fraint bod yn rhan o’r tîm a wnaeth i hynny ddigwydd.

Beth yw’r peth gorau am wirfoddoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?

Mae’n anodd dewis. Un peth rwy’n mwynhau am fod yn wirfoddolwr yma yw’r pethau bach rwy’n gallu gwneud i wella profiadau pobl sy’n ymweld â ni, p’un a yw hynny’n golygu eu helpu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas, siarad â phobl sy’n amlwg â diddordeb yn yr adeilad am y cynllun neu ddatrys unrhyw broblemau y gallent fod yn eu cael. Gweld y llawenydd ar wynebau pobl sydd newydd gael profiad rhyfeddol ac, wrth gwrs, cael y cyfle i weld amrywiaeth ardderchog o berfformiadau fy hun.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu ers bod yn wirfoddolwr?

Dwi wedi dysgu llawer am faint o waith a faint o bobl mae’n cymryd i drefnu perfformiad neu ddigwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a hefyd bod disgwyliadau ac anghenion gwahanol gan bawb pan fyddan nhw’n cerdded drwy’r drysau, a’u bod i gyd yn ddilys.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr?

Os ydych chi’n mwynhau cyfrannu at lawenydd pobl eraill ac yn barod am rai heriau, ewch amdani!

Stori Kevin

Ym mis Mai 2017 gwelais i’r hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ar ôl colli fy mhartner o 31 o flynyddoedd a symud yn ôl i’r DU, roedd angen dechrau newydd arna i.

Gwnes i ymgeisio heb wybod na disgwyl unrhyw beth ond gan obeithio bod siawns gen i. Ar y diwrnod dan sylw, teithiais i i Gaerdydd ac es i i’r Hen Lyfrgell i gwrdd â’r tîm.

Cwrddais i â David a Serena, a chawsom ni sgwrs gyfeillgar, lle dywedwyd wrtha i fy mod i wedi llwyddo i gael lle ar y cynllun.

Alla ddim egluro beth oedd hyn yn ei olygu i mi, ar ôl i mi golli fy hyder gwnaeth i mi deimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth, hwre!

Dechreuais i ddim yn hir wedi hynny, ym mis Mehefin, a chwrddais i â Laura (y Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr) a gwnaethom helpu ein gilydd. Wrth i amser fynd heibio, gwnes i ffrindiau a thyfodd fy hyder eto. Roeddwn i’n falch o gynrychioli Canolfan Mileniwm Cymru a bod yn rhan o’r tîm.

Roeddwn i’n falch bryd hynny a dwi dal yn falch o fod yn rhan o stori Canolfan Mileniwm Cymru. Ar ôl ychydig o amser, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nerbyn ar gyfer rôl â thâl fel Cynorthwyydd Cwsmeriaid, yn gweithio ar werthu rhaglenni a nwyddau, ac roedd y rhain i gyd yn heriau newydd.

Dwi wedi gwneud ffrindiau hyfryd yn yr amser dwi wedi bod yma, a fydden i byth wedi cwrdd â nhw pe na bawn i wedi cymryd y cam cyntaf i fod yn wirfoddolwr.

Dwi wrth fy modd yma a dwi’n ddiolchgar am y profiad, y cyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd a’r pleser dwi’n ei gael o fod yn rhan o deulu Canolfan Mileniwm Cymru.

Ein Rolau Gwirfoddoli

Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli yn newid ac yn datblygu yn barhaus a gallant gynnwys gweithio gyda phawb, o’r tîm Profiad Cwsmeriaid i weithio ar ein gŵyl ein hunain, Llais.

Sut i ymgeisio

Wrth i’r cynllun dyfu a datblygu, caiff rolau newydd eu creu. Edrychwch ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i gael rhagor o wybodaeth.

Pan fydd y cyfnod ymgeisio ar agor bydd disgrifiad o’r rôl ar gael bob amser er mwyn i chi weld pa ddyletswyddau y byddech chi’n eu gwneud, a bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais fer. Yna byddwn ni’n cysylltu â chi a bydd hyfforddiant llawn a chymorth ar gael.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol am wirfoddoli, anfonwch e-bost i volunteer@wmc.org.uk

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer ein rôl Tywysydd Lleoliad Gwirfoddol. Ymgeisiwch drwy'r ddolen yma. Bydd ceisiadau yn cau ar 20 Tachwedd am 12pm. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch volunteer@wmc.org.uk.