Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol a darganfyddwch sut rydyn ni wedi bod yn tanio'r dychymyg dros y blynyddoedd.

Y Stori Hyd Yma 2022 – 2023

Darllenwch ein adroddiad blynyddol (PDF | ISSUU)

Dros y flwyddyn ddiweddaf mae trawsnewidiadau sylweddol wedi digwydd yn ein hadeilad. Mae ein gofodau newydd Cabaret, Ffwrnais a Bocs yn darparu ar gyfer cymunedau amrywiol Cymru ac yn hyrwyddo cynwysoldeb a chreadigrwydd. 

Wrth i nifer ein gofodau gynyddu, mae ein heffaith yng Nghymru yn cynyddu hefyd. Mae dros 6,500 o bobl ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan ein rhaglenni creadigol, gan gynnwys Llais Creadigol, Radio Platfform a Dros Nos. Mae 11,000 o aelodau’r gymuned wedi ymgysylltu â dros 160 o berfformiadau, arddangosfeydd, profiadau a dathliadau diwylliannol dan arweiniad y gymuned yn ein hadeilad.  

Rydyn ni wedi parhau i weithio gydag artistiaid datblygol o bob cwr o Gymru i gynhyrchu ac arddangos eu straeon, a chyrhaeddodd ein cynyrchiadau llwyfan a’n profiadau digidol dros 40,500 o bobl ledled y byd. 

Rydyn ni’n parhau i fod ar y rheng flaen o ran arloesedd yn y sector, gyda’n lleoliad celf ac adrodd straeon ymdrochol Bocs, sy’n unigryw yng Nghymru, a’n cyfranogiad yn rhwydwaith gwres Caerdydd Un Blaned, a fydd yn lleihau ein hallyriadau blynyddol 80%. 

Dim ond crafu’r wyneb mae’r newidiadau yma, ac maen nhw’n nodi’r bennod nesaf gyffrous yn ein stori wrth i ni weithio i ddatblygu Gofodau Creu parhaol dan arweiniad pobl ifanc, a fydd yn meithrin doniau creadigol y genhedlaeth nesaf. 

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein cynulleidfaoedd, cyllidwyr, partneriaid, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a thimau Canolfan Mileniwm Cymru. Diolch. 

2021 - 2022: Y STORI HYD YMA

2021 - 2022: Y STORI HYD YMA

Rydyn ni’n falch iawn o faint y gwnaethom ni barhau i’w gyflawni yn ystod 2021/22. Ni fyddai dim wedi bod yn bosib heb Gyngor Celfyddydau Cymru, ymroddiad ein partneriaid, ein gwirfoddolwyr, ein cymunedau ehangach a’n teulu o gefnogwyr:

Gwnaeth dros 318,000 ohonoch ymweld â ni pan roedd ein hadeilad ar agor, gan gynnwys ymwelwyr â’n harddangosfa ailagor dan arweiniad y gymuned, Eich Llais a daeth 140,000 ohonoch i weld sioeau ar draws ein gofodau. 

Buom yn gweithio ar ddatblygu 10 o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru'r dyfodol, a hynny gydag egin artistiaid. Fe ddatblygon ni ein comedi cerddorol Gymraeg gyntaf, Anthem. Fe gynigion ni 511 awr o ofod i 30+ o artistiaid, grwpiau cymunedol ac ysgolion er mwyn iddynt ddatblygu eu syniadau.

Gwnaethom ni groesawu cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol - roedd 13% o archebwyr tocynnau ar gyfer ein cynhyrchiad The Boy with Two Hearts o grwpiau Du, Asiaidd, cymysg ac ethnig amrywiol (o gymharu â 3% ar gyfer ein sioeau masnachol). Gwnaethom ni barhau i wneud ein perfformiadau yn fwy hygyrch i’n cymunedau, gan gynnwys gosod seddi ‘talwch beth y gallwch’ pwrpasol yn ein prif theatr.

Gwnaethom ni barhau i gyd-gynhyrchu rhaglenni gyda phobl ifanc, gan gynnwys ein rhaglen hyfforddiant ieuenctid rhad ac am ddim, Llais Creadigol, a gynhaliwyd ar-lein. Ymunodd 100 o bobl ifanc yn y rhaglen hon. Gwnaethom ni gydweithio â 60+ o bobl ifanc i ddylunio ein Gofodau Creu ac fe gydweithiom â 50+ o bartneriaid cymunedol a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein wyth sefydliad preswyl diwylliannol.

Diolch o galon – rydyn ni’n llawn cyffro bod llawer mwy i ddod.

Adroddiad Blynyddol 2020 - 2021

Adroddiad Blynyddol 2020 - 2021

Roedd hon yn flwyddyn unigryw ac anodd tu hwnt i ni ac i weddill y sector. Yn sgil pandemig y Coronafeirws, caewyd ein drysau 17 Mawrth 2020, ac fe ail agorodd yr adeilad ym mis Gorffennaf 2021. Gyda chanslo pob sioe a digwyddiad, fe gollon ni 85% o’n refeniw dros nos, a bu rhaid i ni lywio ein ffordd drwy amgylchiadau digynsail, er mwyn sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn goroesi.

Er na fu’n bosib i ni gyflwyno cynyrchiadau ar ein llwyfannau na chwaith croesawu pobl i’n hadeilad eiconig, fe lwyddon ni i gadw fflam creadigrwydd ynghyn drwy gydweithio â’r gymuned a symud ein rhaglen ymgysylltu greadigol ar-lein. Fe wnaeth bron i 3,000 o bobl ifanc ymwneud â ni drwy weithdai creadigol ar-lein dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan feithrin sgiliau gwerthfawr.

Roedden ni hefyd yn un o bedair o hoff wyliau Cymru i ddod ynghyd i greu a chyflwyno Gŵyl 2021, gŵyl ar-lein am ddim oedd yn llawn dop â cherddoriaeth, comedi a sgyrsiau. Roedd Cate le Bon a Brett Anderson ymhlith ein hartistiaid. Fe wyliodd 107,101 o bobl Gŵyl 2021, drwy gyfrwng gwefan BBC Cymru – nifer anhygoel.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL 2020

Canolfan Mileniwm Cymru: Cyfyngedig  Drwy Warant

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 - 2020

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 - 2020

Cyflwynodd dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig, Hydref 2019, dros 30 sioe, a hwn oedd ein tymor fwyaf hygyrch hyd yn hyn. Teithiodd gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg o Cer i Grafu… Sori…GARU! a Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), ein cyd-gynhyrchiad arobryn gyda Carys Eleri, ledled Cymru ac i ŵyl ymylol Caeredin, ac fe dderbyniodd adolygiadau gwych.

Cawsom ein perfformiad cyntaf un yn Asia ym mis Chwefror 2020 gyda chyd-gynhyrchiad newydd sbon o The Mirror Crack’d, wedi’i berfformio ym Mumbai. Roedd ein cyd-gynhyrchiad The Beauty Parade – drama newydd sbon dan arweiniad menywod, a grëwyd gan artistiaid Byddar ac artistiaid sy’n clywed – yn boblogaidd tu hwnt yn ystod mis Mawrth 2020. Tu hwnt i’r llwyfan, lansiodd Radio Platfform ei ail stiwdio – yn Y Porth, Rhondda Cynon Taf, ym mis Gorffennaf 2019.

Fe gynhalion ni hefyd gyfres o wleddoedd cymunedol yn ein Glanfa. Roedd y rhain yn llwyddiant ysgubol, ac rydyn ni’n mawr obeithio ail-gydio yn y gwleddoedd unwaith y byddwn yn ailagor ein hadeilad.

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018 - 2019

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018 - 2019

Ym mis Tachwedd 2019, fe ddathlon ein pen-blwydd yn 15 a buon yn myfyrio ar y fraint sydd gennym ni o ran cael meithrin calonnau, meddyliau a llesiant y genedl. O groesawu 26,000 o bobl drwy ein drysau ar gyfer ein Gŵyl y Llais a 300,000 o ymwelwyr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a dod â sioeau rhyngwladol byd-enwog megis War Horse a Wicked i’n llwyfan.

Rydyn ni’n ymfalchïo nid yn unig mewn dod â chynyrchiadau a gwyliau o safon fyd-eang i brif ddinas ein gwlad, ond hefyd yn ein gwaith o ddatblygu a chefnogi artistiaid lleol a lledu gorwelion ein pobl ifanc. Darganfyddwch sut mae pob ceiniog sy’n cael ei wario yn y Ganolfan yn tanio dychymyg y genedl.