Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni'n falch o'n dwyieithrwydd. Ers agor yn 2004, rydyn ni wedi gweithio'n galed i gynnig profiad dwyieithog o ansawdd i'n holl gwsmeriaid, ymwelwyr a staff.

Ers 2017 rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal Safonau'r Gymraeg, sef safonau sy'n sicrhau bod unigolion yn gallu cael gwasanaethau yn Gymraeg.

Rydyn ni'n ymrwymo i gwrdd â'r safonau ym mhob agwedd o'n gwaith.

Ein hymrwymiad i'n hymwelwyr a'n cwsmeriaid

Byddwn yn:

  • Rhoi croeso cynnes Cymraeg i chi
  • Cyfathrebu gyda chi yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Parchu a chofio eich dewis iaith
  • Hyrwyddo ein sioeau a'n digwyddiadau yn ddwyieithog mewn print ac yn ddigidol
  • Sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol 
  • Hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda ni  

Fe allwch:

  • Siarad â ni yn Gymraeg ar y ffôn neu wyneb yn wyneb
  • Ysgrifennu llythyr neu e-bost atom yn Gymraeg 
  • Cwyno wrthym yn Gymraeg os yw pethau'n mynd o chwith 

Cysylltwch gyda ni yn Gymraeg neu'n Saesneg dros y ffôn, e-bost, llythyr neu yn y Ganolfan.

 

Gwybodaeth

Safonau Iaith Gymraeg a roddwyd i Ganolfan Mileniwm Cymru

Sut y byddwn yn cwrdd â'r safonau

Ein trefn am gwynion sy'n ymwneud â'r Gymraeg

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 22/23

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 21/22

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 20/21

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 19/20

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 18/19

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 17/18

Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 16/17