Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n credu cynyrchiadau byw a digidol hudol sy’n adloni ac yn herio cynulleidfaoedd gartref a thramor. 

Rydyn ni’n canolbwyntio ar greu gwaith sydd ag elfen gerddorol gref ac sy’n dathlu’r llais a lleisiau. Gan weithio gydag artistiaid, rydyn ni’n adrodd straeon cymhellol sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru, yn hyrwyddo talent ac yn cysylltu â phobl. 

Mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio yr un mor bwysig â’r hyn a wnawn. Rydyn ni am gefnogi artistiaid i adrodd eu straeon yn y ffyrdd maen nhw am wneud hynny, gydag uchelgais a gofal radical wrth wraidd ein cydweithrediadau.  

 

Cynyrchiadau diweddar 

Branwen: Dadeni

Branwen: Dadeni: Roedd ein cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen, cynhyrchwyr o’r gogledd, yn ailddychmygu’r chwedl glasurol ar gyfer cynulleidfa gyfoes. Roedd yn llwyddiant gyda’n cynulleidfaoedd ar unwaith, a daeth dros 5,500 i’w weld yn ystod ein taith ledled y wlad gan olygu ei fod yn un o'r sioeau cerdd Cymraeg mwyaf a lwyfannwyd erioed. 

Es & Flo

Mae Es & Flo, enillydd y Popcorn Writing Award (2020) a’r Nancy Dean Lesbian Playwriting Award (2022), yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i ymladd dros beth sy'n iawn, a phŵer iachaol teulu dewisol. Yn dilyn rhediad yn y Stiwdio Weston, trosglwyddodd y ddrama i’r Kiln Theatre yn Llundain.  

Gwyliwch yr awdur Jennifer Lunn yn siarad am y broses greadigol: 

The Making of a Monster

★★★★

"Thrilling ambition."

THE STAGE

Stwnsh grime-theatr gan Connor Allen.  

Ar gyfer The Making of a Monster, cafodd ein Stiwdio Weston ei drawsnewid yn ofod eclectig lle aeth Connor Allen, Children’s Laureate Wales, â chynulleidfaoedd yn ôl i’w blentyndod fel plentyn hil gymysg mewn perygl o golli rheolaeth, a'r un eiliad a newidiodd ei fywyd.  

Gan ymgorffori cerddoriaeth fyw, tafluniadau, barddoniaeth a symudiad, rhannodd y sioe stori bachgen o Gasnewydd â thad Du absennol, yn osgoi’r heddlu ac yn ceisio gweithio allan beth mae bod yn ddyn yn ei olygu. 

Wedi’i greu o ddiwylliant grime a’i ysbrydoli gan Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, dyddiadau’r cynhyrchiad oedd 9–19 Tachwedd 2022.

The Boy With Two Hearts

Gwnaeth The Boy with Two Hearts, stori o obaith o Affganistan i Gymru, swyno cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd cyn trosglwyddo i’r National Theatre yn Llundain i ganmoliaeth ysgubol.

Gwyliwch yr awduron Hamed a Hessam Amiri yn sgwrsio am eu taith i mewn i fyd cynhyrchu theatr a throsglwyddo stori arbennig eu teulu o’r dudalen i’r llwyfan.  

The Making of a Monster

Too black for his white friends, but too white for his Black friends. Growing up mixed race in Newport, Connor fell into a cloud of grey.

Grandmother's Closet

Mae’r sioe hunangofiannol yma gan y gwneuthurwr theatr profiadol Luke Hereford, a oedd yn ysgrifennu am y tro cyntaf, yn archwilio ei bersonoliaethau cwiar.

Anthem

Comedi gerddorol yn Gymraeg oedd Anthem a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston ym mis Gorffennaf 2022.

Llais

Mae gŵyl gelfyddydol ryngwladol Caerdydd yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd am gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau ysgogol a sgyrsiau ysbrydoledig.

The Boy With Two Hearts

The Boy With Two Hearts

O Affganistan i Gymru, datgelodd y stori wir hon y dewrder a'r ddynoliaeth sydd y tu ôl i stori bob ffoadur.

Ripples of Kindness

Stori o frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, crëwyd y profiad VR cymydol hwn i gyd-fynd â The Boy With Two Hearts.

Cate Le Bon

Gŵyl 2021

Daeth pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021.

Night photography with a long exposure by Dee Bryan

EICH LLAIS

Roedd Eich Llais syn arddangosfa amlgyfrwng dan arweiniad y gymuned a oedd yn dal bywydau, gobeithion a breuddwydion ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau.

RED

RED oedd ein sioe Nadolig ar gyfer 2019 a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston. Roedd hi’n gyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni arobryn Likely Story a…

The Beauty Parade

The Beauty Parade

Wedi’i gyd-gynhyrchu â’r gwneuthurwr theatr arloesol, Kaite O’Reilly, cyflwynodd The Beauty Parade stori ryfeddol ysbiwyr benywaidd, arwrol yr Ail Ryfel Byd.

Lovecraft

Cer i grafu...sori ...garu!

Sioe wyddoniaeth, comedi, cerddoriaeth un ddynes Carys Eleri am gymhlethdodau cariad.

The Mirror Crack'd

Ein drama wefreiddiol newydd yn seiliedig ar y clasur o nofel ddirgel Miss Marple gan Agatha Christie, The Mirror Crack'd from Side to Side.

Double Vision

Double Vision

This ambitious co-production with Gagglebabble was part murder mystery, part gig with plenty of twists and turns.

Tiger Bay Y Sioe Gerdd

Dociau Caerdydd ar droad yr ugeinfed ganrif, lle mae tlodi enbyd ochr yn ochr â chyfoeth eithriadol a’r diwydiant glo sy'n teyrnasu.

Tom Mumford as the Centaur

Highway One

Co-production with August 012 about a surreal journey to Delphi with a grieving woman, mythical Centaur, Italian film-maker and a mystic.

Only the Brave

Sioe gerdd am laniadau D-Day, straeon y dynion a'r menywod a'u dewrder yn wyneb yr Ail Ryfel Byd.

Dinas yr Annisgwyl

Strafagansa byw ansbaridigaethus drwy strydoedd Caerdydd i ddathlu bywyd a gwaith Roald Dahl.

Man to Man

Ein cynhyrchiad mewnol cyntaf, gyda fersiwn newydd o ddrama Manfred Karge am oroesiad un fenyw yn yr Almaen Natsiaidd