Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Daeth Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales at ei gilydd i greu Dinas yr Annisgwyl i ddathlu penblwydd Roald Dahl yn 100 mlwydd oed.

Gyda 2016 yn nodi canrif ers geni Roald Dahl, fe ddathlodd Canolfan Mileniwm Cymru gyda rhaglen hyfryd o berfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau. Fe ffrwydrodd canol dinas Caerdydd yn fyd rhyfedd a rhagorol Roald Dahl gyda digwyddiadau annisgwyl yn ymddangos ledled Caerdydd.

Gyda chymeriadau a straeon yr awdur yn llenwi bob cornel o’r ddinas roedd Eirinen Wlanog Enfawr, teulu direidus o lwynogod, priodas Miss Ladybird a Mr Fireman a llawer mwy yn rhan o’r dathlu. Roedd cynulleidfaoedd yn darganfod corneli cyfrinachol Caerdydd: celloedd banciau, cestyll, gerddi cudd, capeli, ffermydd pryf genwair a Neuaddau Tref wedi’u llenwi ag ysbryd a straeon chwedleuwr enwocaf Caerdydd, Roald Dahl.