Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Roedd Grandmother’s Closet yn gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Luke Hereford, a gafodd ei berfformio yn Stiwdio Weston o 20–23 Ebrill 2022.

Mae’r sioe hunangofiannol yma gan y gwneuthurwr theatr profiadol Luke Hereford, a oedd yn ysgrifennu am y tro cyntaf, yn archwilio ei bersonoliaethau cwiar a sut ddysgodd Luke i garu ei hunaniaeth trwy gymorth ei fam-gu a’i chwpwrdd dillad lliwgar.

Wrth dyfu i fyny mewn cymuned agos yn ne Cymru, roedd Luke Hereford yn dibynnu ar ei fam-gu fel codwr hwyl personol i'w dywys drwy ei blentyndod cwiar.

“Mae Grandmother’s Closet yn sioe am ddihangfa a pha mor allweddol ydyw fel arf i bobl gwiar, felly wrth gwrs mae'n bodoli'n bennaf yn y man lle darganfyddais i pa mor bwerus y gall dihangfa fod.”

Luke Hereford

Yn dilyn rhediad o sioeau a werthodd allan ym mis Ebrill 2022, bydd sioe gerdd unigryw Luke Hereford yn cael ei pherfformio rhwng 3–28 Awst 2022 yn adeilad y ‘Summerhall’ yn ystod Gŵyl Ymylol Caeredin.

Darllenwch flog Luke: Hafan Hynodrwydd