Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Daeth pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021.

Roedd hi’n ŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, ac fe gofleidiodd amrywiaeth a deialog.

Fel pob gŵyl gwerth ei halen, roedd Gŵyl 2021 yn ddathliad o artistiaid cyfarwydd ac yn llwyfan i leisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt.

Ymhlith artistiaid yr ŵyl roedd Cate Le Bon mewn cydweithrediad â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill, roedd Charlotte Adigéry yng Ngwlad Belg, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’ a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot.

Fe guradodd y cwmni dawns Jukebox Collective berfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a rhagor.

Fe gyflwynodd Radio Platfform Next Up sef casgliad o egin artistiaid Hip Hop a Rap yn ne Cymru.

Cafwyd hefyd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a’r Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwestai arbennig Nadine Shah, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd Cymreig cyfarwydd.

Fe ddarlledwyd Gŵyl 2021 ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 dros benwythnos 6-7 Mawrth 2021.