Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Llais yw gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob un ohonom – y llais.

Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.

Mae’r ŵyl yn ddigwyddiad uchelgeisiol bywiog sy’n...

Dathlu cerddoriaeth, perfformio a grym a Hud y llais.

Rydym yn rhoi lleisiau ar y rhaglen sy’n tanio emosiwn, herio barn, sy’n gallu ein huno ni, ein hysbrydoli ni, ein lleddfu ni ac ysgogi newid. Mae’r ŵyl yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd dros bedwar diwrnod o gelf, syniadau gerddoriaeth a perfformiadau byw.

galluogi pobl i ddefnyddio eu lleisiau

Mae defnyddio’r llais yn rhan sylfaenol o fywyd. Rydym yn creu cyfleoedd i bobol, waeth beth yw eu cefndir neu brofiad, i gymryd rhan drwy gydol yr ŵyl.

wedi ei wreiddio yng Nghymru a'i olygon yn rhyngwladol

Rydym yn rhoi rhai o leisiau mwyaf arbennig a phwerus o bedwar ban byd ochr yn ochr â’r artistiaid gorau, yn brofiadol ac yn newydd, o Gymru.

annog meddwl agored

Rydym yn cynnig prosiectau, perfformiadau a syniadau sy’n diddanu ac yn cyffroi ond hefyd sy’n gwthio ffiniau, herio doethineb confensiynol ac yn annog meddwl creadigol. Rydym yn gwneud hyn ddigwydd trwy...

  • Groesawu lleisiau o bob disgyblaeth, genre a chefndir. O artistiaid grime i gorau polyffonig, adrodd stori i osodiadau sain, ac o opera ymgolli i farddoniaeth pync - dathlu llais yn ei holl ffurfiau sy’n gwneud Gŵyl y Llais mor unigryw.
  • Comisiynu gwaith newydd. Trwy gydweithio a phartneriaethau rydym yn cyflwyno gwaith newydd gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus y byd, ac yn denu cynulleidfa ryngwladol i Gaerdydd ar gyfer perfformiadau unwaith mewn bywyd. 
  • Rhoi cyfleoedd i artistiaid Cymreig dorri tir newydd. Rydym yn annog lleisiau diffiniol Cymru i fentro’n greadigol, i brofi a datblygu syniadau, i gydweithio ac i hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ei garu.
  • Cryfhau lleisiau artistiaid a siaradwyr. Rydym yn darparu llwyfan ar gyfer syniadau a lleisiau arloesol, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml neu nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Rydym yn galluogi pawb i fynegi eu hunain; i glywed a chael eu clywed.
  •  Tyfu, datblygu a dysgu. Gan adlewyrchu ar y ddau ddigwyddiad cyntaf yn 2016 a 2018, mae Llais bellach yn ŵyl flynyddol, wedi ei osod wrth galon rhaglen flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru. Gyda band arddwrn newydd sy’n rhoi mynediad i bob man, bydd cynulleidfaoedd yn gallu darganfod byd o leisiau, crwydro rhwng lleoliadau a phrofi byd newydd. 
  • Cysylltu gydag artistiaid a rhwydweithiau diwydiant. Trwy weithio gyda phrosiectau fel BBC Horizons, rydym yn chwilio am artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru ac o Gymru ac i roi llwyfan rhyngwladol arbennig iddynt. Mae Llais yn falch o fod yn digwydd yng Nghaerdydd, Dinas Gerdd gyntaf y DU, ac i allu dathlu a chyfrannu at y ganolfan greadigol yma.  
  • Gweithio gyda sefydliadau celfyddydol ieuenctid a grwpiau cymunedol. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, mae Llais yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc lleol i guradu, cynhyrchu, datblygu a pherfformio gwaith creadigol. Rydym yn cydnabod y gall y broses o gynllunio a chyflwyno gŵyl fel hyn fod yr un mor werthfawr â’r digwyddiad ei hun.
  • Cyflwyno profiadau byw a digidol sy'n annog cyfranogiad. O berfformio rhyngweithiol i drafodaeth agored, mae Llais yn datblygu ei sgyrsiau a’i drywydd o ran hybu cyfranogiad, gan gydnabod, mai trwy siarad â’r presennol a dychmygu’r dyfodol, gall ein llais cyfunol fod yn gryfach