Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Yn brosiect wedi ei arwain gan y gymuned, ein harddangosfa gelfyddydau amlgyfrwng oedd Eich Llais - gyda gosodiad celf ar ffurf coeden grosio pedwar llawr yn ganolog iddi.

Yn brosiect wedi ei arwain gan y gymuned, roed ein harddangosfa gelfyddydau amlgyfrwng, Eich Llais yn crynhoi bywydau, gobeithion a breuddwydion rhai o’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau mewn cyfnod unigryw yn ein hanes.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym Mai 2020, mewn cyfnod o ddatgysylltiad, ’fe ofynnon ni i’n cynulleidfa i gysylltu trwy greu, i edrych i’r dyfodol a rhyddhau eu meddyliau a dychmygu sut y gall bywyd, y celfyddydau a’r byd fod yn y dyfodol.

Mae'r arddangosfa – syniad gwreiddiol gan ein tîm cymunedol, dan arweiniad yr Uwch Gynhyrchydd Gemma Hicks wedi’i churadu gan Brad Caleb Lee – yn adrodd stori 2020-21.

Fe gyrhaeddodd waith celf o bob cwr o Gymru – o Sir Benfro i Gasnewydd, Llanfair-ym-muallt i Gaernarfon, gan artistiaid o 4 i 90 mlwydd oed. Ymhlith y darnau celf mae paentiadau, recordiadau gair llafar, celf ddigidol, gwaith gosod, gwaith aml-gyfrwng a ffilm.

Wrth galon yr arddangosfa, mae coeden grosio enfawr wedi’i haddurno gyda cherddi a blodau ac anifeiliaid wedi’u crosio.

Darllenwch blog o du ôl i'r llen  gan guradur yr arddangosfa, Brad Caleb-Lee.