Gydag wyth partner preswyl, mae Canolfan Mileniwm Cymru wir yn ffwrnais awen, gan fod yn ganolbwynt i ddyheadau diwylliannol ein cenedl. Rydyn ni'n ymrwymedig i gydweithio â phartneriaid preswyl. Roedd hon yn rhan hanfodol o'n gweledigaeth sefydlu, sef sicrhau budd cyhoeddus mwyaf posibl y naw sefydliad creadigol sydd bellach yn gweithio dan un to.
Mae Undod, sef gŵyl gynhwysol flynyddol, yn un enghraifft o brosiect ar y cyd rhyngddyn nhw.
Gweithdy cerddoriaeth Touch Trust

Gweithdy sgiliau syrcas oedd yn rhan o ysgol haf Bang! lle mae partneriaid preswyl yn cydweithio i gynnal y rhaglen addysgol flynyddol yma (chwith) ac Ozzard Hijinx Theatre (dde)
Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth Cymru
Theatr hygyrch, ddifyr a heriol o safon uchel
Celfyddyd Symudiad er Iechyd a Bodlonrwydd
Cerddoriaeth Cymru i'r byd
Prif Sefydliad Ieuenctid Cymru
Ers dod yn gwmni preswyl yn y Ganolfan, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, er enghraifft, wedi ehangu ei waith cydweithredol:
"Gallwn wneud llawer mwy o waith addysgol nawr. Gwnaethom fwy na thebyg gynnal tua wyth prosiect ychwanegol y llynedd. Nid yw ein gwaith gydag hysgolion wedi'i gyfyngu i Gaerdydd a De Cymru mwyach. Mae plant o Ogledd Cymru wedi gallu dod i aros yng ngwersyll yr Urdd ac yna gweithio gyda ni am ddeuddydd. Ac rydyn ni wedi cynnal gweithdai i gyfansoddwyr o Gymru mewn cydweithrediad â Thŷ Cerdd." David Murray, Cyfarwyddwr, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Manwerthwyr
Yn ogystal â'n Bwyty a Bar ein hunain, ffresh a'n caffi Hufen, rydyn ni'n gartref i fanwerthwyr eraill gan gynnwys bariau coffi, siop cofroddion a Chanolfan Croeso i gyd ar y llawr daear.
Yn gweini bwyd bistro gyda thrwydded i werthu diodydd alcoholaidd. Gellir hefyd drefnu i gynnal digwyddiadau preifat yn Bar One, ac mae'n ymestyn i lawr cyntaf y Ganolfan
Byrbrydau, diodydd a chacennau
Yn gwerthu amrywiaeth eang o eitemau gan gynnwys siocledi o Gymru wedi'u cynhyrchu â llaw, llyfrau, cardiau ac wrth gwrs crochenwaith Portmerion
Yn rhoi digon o wybodaeth am Gaerdydd a'r cyffiniau