Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon

Bariau'r Theatr

  penderyn-awen-bar-01 

Pan fyddwch chi'n dod i Theatr Donald Gordon cewch fwynhau diodydd cyn y perfformiad neu yn ystod yr egwyl yn un o'n bariau theatr - Awen Penderyn, Stones a Horizons. Maen nhw'n cynnig lleoliad trawiadol am ddiod gyda ffenestri sy'n edrych allan trwy'r llythrennau ar flaen yr adeilad.

 

Bar Cyntedd Awen Penderyn:

Mae Cyntedd Awen Penderyn ar lefel 2 yr adeilad gyda’r arysgrif fel cefndir prydferth a bar mawr dur cyfoes. Dyma'r mwyaf o'r 3 bar theatr.

 

Bar Cyntedd Horizons:

Mae Bar Cyntedd Horizons ar lefel 4 y Ganolfan, ac mae ganddo olygfa rannol o'r arysgrif. Mae'n gyfleus i seddi'r cylch yn awditoriwm Donald Gordon.

 

Bar Cyntedd Stones:  

Un o nodweddion Bar Cyntedd Stones ar lefel 5 yw ei nenfwd crwm anghyffredin. Mae ardal y bar mawr dur yn agos at seddi'r cylch uchaf yn Theatr Donald Gordon.