"Love is a desire for beauty - a value that transcends the particularities of the physical body." Plato, The Symposium.
Mewn gwledd foethus, y pwnc sy’n cael ei drafod yw cariad. Mae cariad yn rhan annatod o bob person, ond beth yw cariad, diben cariad, a phwy sy’n cael caru, neu beidio? Wedi’i ysbrydoli gan Plato, The Symposium a’i syniadau am bobl a’n tueddiadau naturiol, mae darn dawns Danza Mobile yn edrych ar yr hyn sy’n ein gyrru ni mewn ffordd chwareus.
Danza Mobile yw un o’r cwmnïau dawns cynhwysol mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, a byddant yn ymweld am y chweched tro yn rhan o Ŵyl Undod Hijinx. Mae eu perfformiadau wastad wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’n cynulleidfaoedd ac rydyn ni’n sicr y bydd yr un peth yn wir am El Festin de los Cuerpos.
Iaith: Sbaeneg gydag uwchdeitlau Saesneg
Canllaw oed: 14+
Noethni rhannol a themâu aeddfed.
Amser cychwyn:
Iau 8pm
Hyd y perfformiad: Tua 55 munud
DAN 26, MYRFYWYR A HYNT
Tocynnau £10
CYNNIG GRWPIAU
Grwpiau o 10+, tocynnau £10. Trefnu ymweliad grŵp.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Open Captioning
Audio Described