Mae sioe gerdd fwyaf poblogaidd y byd 'nôl! Yn fwy real a glamoraidd nag erioed o’r blaen.
Ar ôl rhamant haf brysiog, mae’r carwr lledr Danny a’r ferch drws nesaf Sandy yn cwrdd eto yn annisgwyl pan mae hi’n trosglwyddo i Rydell High. Allan nhw oroesi treialon a thrallodion bywyd arddegwyr a dod o hyd i wir gariad unwaith eto?
Gyda’i sgôr rhyfeddol, yn llawn caneuon poblogaidd gan gynnwys Summer Nights, Greased Lightnin’, Hopelessly Devoted to You ac You’re the One That I Want, daw’r fersiwn newydd cyffrous yma yn fyw gyda chast ifanc ffres sy’n dod ag egni, bywiogrwydd ac angerdd i’r clasur cerddorol yma.
Wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Curve, Nikolai Foster, ailgynnwch eich angerdd a pharatowch am ffrwydrad o gariad hafaidd.
Felly ffoniwch eich Burger Palace Boys a’ch Pink Ladies a dewch i ailddarganfod pam mai Grease yw’r sioe berffaith y tymor yma!
Llyfr, Cerddoriaeth a Geiriau gan Jim Jacobs + Warren Casey. Cyfarwyddwyd gan Nikolai Foster. Coreograffi gan Arlene Phillips.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd