Aelodaeth
Cefnogwch y celfyddydau yng Nghymru. Os ydych chi’n dwli ar theatr, ymaelodwch heddiw i gael y seddi gorau yn y tŷ a buddion gwych drwy’r flwyddyn.
Dewch yn nes at yr hyn rydych chi’n ei garu tra eich bod chi’n ein helpu ni i wneud mwy.
Fel aelod byddwch chi’n ein helpu ni i gyrraedd mwy o bobl ifanc drwy ein rhaglenni addysg ac allgymorth trawsnewidiol; creu mwy o’n cynyrchiadau arloesol ein hunain gydag artistiaid cenedlaethol datblygol; a’n galluogi ni i ehangu mynediad i’r celfyddydau drwy docynnau cymunedol, perfformiadau hygyrch a datblygu gwaith i gynulleidfaoedd newydd.
Rydyn ni’n cynnig pedwar lefel o aelodaeth. I gydnabod eich cefnogaeth, gallwch chi fwynhau amrywiaeth o fuddion arbennig.
Ein Aelodaeth Partner
PARTNER
- Mynediad i’r seddi gorau cyn pawb arall (ac eithrio Opera Cenedlaethol Cymru), wedi'u cadw hyd at ychydig wythnosau cyn ein perfformiadau mwyaf
- Gwahoddiad i ddau ddigwyddiad arbennig y flwyddyn
- Mynediad i’n bar a lolfa breifat i aelodau, Copr
- Cydnabyddiaeth o’ch cymorth ar blatfformau digidol amrywiol
- Diweddariadau rheolaidd drwy e-bost am ein gwaith, sioeau sydd ar ddod, digwyddiadau a chynigion tocynnau
- Gostyngiad o 20% ar fwyd a diod yn Ffwrnais, Teras, Copr a'n bariau theatr gyda'ch cerdyn aelodaeth digidol
Aelodaeth unigol: Cyfraniad awgrymedig o £30 y mis (£360 y flwyddyn) drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein neu drwy ein ffonio ni ar 029 2063 6378, neu dewiswch daliad blynyddol unigol o £390.
Aelodaeth ar y cyd: Cyfraniad awgrymedig o £43.50 y mis (£522 y flwyddyn) drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein neu drwy ein ffonio ni ar 029 2063 6378, neu dewiswch daliad blynyddol unigol o £560.
Mae aelodaeth ar y cyd yn caniatáu i’r ddau aelod ddefnyddio’r lolfa i aelodau ar wahân ac i archebu wyth tocyn ar gyfer pob perfformiad yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth, yn hytrach na phedwar, a phrynu pedwar tocyn ar y gyfradd ostyngedig yn hytrach na dau.
Partner Awen
Holl fuddion aelodaeth Partner, yn ogystal â:
- Gwahoddiad i daith cefn llwyfan pan fyddwch yn ymuno
- Mynediad i’r seddi gorau cyn unrhyw un arall, gan gynnwys perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru, drwy wasanaeth bersonol dros y ffôn
- Gwahoddiad i ddigwyddiad arbennig i aelodau Partner Awen
- Cydnabyddiaeth o'ch cefnogaeth mewn ardal gyhoeddus yn ein hadeilad, ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiadau
Aelodaeth unigol: Cyfraniad awgrymedig o £102 y mis (£1,224 y flwyddyn) drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein neu drwy ein ffonio ni ar 029 2063 6378, neu dewiswch daliad blynyddol unigol o £1,340.
Aelodaeth ar y cyd: Cyfraniad awgrymedig o £146 y mis (£1,752 y flwyddyn) drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein neu drwy ein ffonio ni ar 029 2063 6378, neu dewiswch daliad blynyddol unigol o £1,895.
Mae aelodaeth ar y cyd yn caniatáu i’r ddau aelod ddefnyddio’r lolfa i aelodau ar wahân ac i archebu wyth tocyn ar gyfer pob perfformiad yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth, yn hytrach na phedwar, a phrynu pedwar tocyn ar y gyfradd ostyngedig yn hytrach na dau.
Ein Aelodaeth Ffrind
Ffrind
O £54 y flwyddyn, mae aelodaeth Ffrind yn berffaith i'r rhai sy'n dwli ar y theatr.
- Archebu â blaenoriaeth: Dewiswch eich seddi cyn y cyhoedd
- Gostyngiad o 20% ar fwyd a diod yn Ffwrnais, Teras a'n bariau theatr gyda'ch cerdyn aelodaeth digidol
- Seddi am bris is gyda chynigion arbennig ar docynnau
- Diweddariadau e-bost rheolaidd
Ffrind+
O £150 y flwyddyn, cewch holl fuddion aelodaeth Ffrind a llawer mwy...
- Mynediad i chi a'ch gwesteion i'n lolfa a bar preifat i aelodau Copr, lle y cewch ostyngiad o 20% ar eich diodydd
- Digwyddiad unigryw unwaith y flwyddyn yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru