Skip to main content

Rydyn ni'n gwybod pa mor rhwystredig yw sylweddoli eich bod wedi colli rhywbeth yn ystod eich ymweliad.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gadael eitem ar ôl wrth ymweld â ni, cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid cyn gynted â phosib. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch helpu i ddod o hyd i’ch eiddo.

Er mwyn ein helpu i adnabod eich eitem, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys:

  • Disgrifiad o'r eitem
  • Y dyddiad y gwnaethoch ymweld â ni
  • Lle rydych chi'n meddwl y gallai fod wedi cael ei golli
  • Unrhyw nodweddion adnabod 

Mae'r holl eitemau sy'n cael eu cyflwyno i ni yn cael eu cofnodi a'u storio'n ddiogel. Ar ôl i ni dderbyn eich ymholiad, byddwn yn gwirio ein cofnodion a'n lleoliadau storio i weld a yw eich eitem wedi cael ei ddarganfod.

Casglu eiddo coll

Os byddwn yn dod o hyd i'ch eitem, byddwn yn rhoi gwybod i chi ble mae'n cael ei storio ac yn trefnu amser cyfleus i chi ei gasglu.

Nodwch:

  • Rhaid casglu eiddo coll o adeilad Canolfan Mileniwm Cymru.
  • Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i helpu i gadarnhau perchnogaeth cyn dychwelyd eitem.

Pa mor hir ydych chi'n cadw eiddo coll?

Mae eiddo coll yn cael ei gadw am 28 diwrnod o'r dyddiad y caiff ei ddarganfod. Ar ôl yr amser hwn, mae’n bosib y bydd unrhyw eitemau heb eu hawlio yn cael eu hailgylchu neu eu gwaredu mewn ffordd gyfrifol.

Mae’n bosib y bydd eitemau byrhoedlog yn cael eu gwaredu yn gynt lle bo hynny'n briodol.

Eitemau gwerthfawr

Mae eitemau fel ffonau symudol, waledi, gemwaith ac arian parod yn cael eu storio'n ddiogel. Os ydych wedi colli eitem werthfawr, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.

Cysylltu â ni

I holi am eiddo coll, cysylltwch â ni:

Ffôn
029 2063 6464
o ddydd Llun i ddydd Gwener, 11am i 4pm

E-bost
tocynnau@wmc.org.uk
Mae e-byst yn cael eu hateb o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 4.30pm, ac yn cael eu monitro ar ddydd Sadwrn.

Gwe-sgwrs
Defnyddiwch y botwm Sgwrsio’n Fyw yng nghornel dde isaf y sgrin i sgwrsio â'n cynorthwyydd rhithwir neu aelod o'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Mae gwe-sgwrs ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 10am i 4pm (ac eithrio gwyliau banc).

Eich Ymweliad