Cwestiynau Cyffredin
Os ydych chi’n dod i ymweld â ni ac am wybod beth i’w ddisgwyl, darllenwch ein cwestiynau cyffredin.
Dyma’r atebion i rai o'n cwestiynau cyffredin.
Methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cliciwch ar y botwm 'SGWRSIO'N FYW' ar waelod eich sgrin er mwyn gofyn i'n bot neu gysylltu â'r Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.
Archebu tocynnau
Sut ydw i'n defnyddio e-docynnau?
Mae ein tocynnau i gyd yn ddigidol bellach a byddant yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi archebu.
Dangoswch eich tocynnau ar eich dyfais symudol i’n tywyswyr cyfeillgar ar eich ffordd i mewn i’r awditoriwm.
Ydw i’n gallu cael fy nhocynnau drwy SMS?
Gallwch. Darparwch eich rhif ffôn symudol wrth archebu tocynnau neu ddiweddarwcheich rhif a’ch dewis iaith yn eich cyfrif ar-lein. Yna, bydd eich tocynnau yn cael eu hanfonyn uniongyrchol i’ch ffôn yn eich dewis iaith.
Nid wyf wedi cael fy e-docynnau? Pryd fyddan nhw'n cyrraedd?
Dylai eich tocynnau gyrraedd o fewn 30 munud i chi archebu, yn eich e-bost cadarnhau. Os na, gallwch chi eu hail-lwytho drwy Fy Nghyfrif.
Ydw i’n gallu rhannu tocynnau’n hawdd â fy ngrŵp?
Gallwch. Gallwch chi rannu tocynnau’n uniongyrchol o’ch cyfrif ar-lein neu drwy’r ddolen sy’n cael ei hanfon drwy SMS. Gofynnir i dderbynwyr greu cyfrif a diweddaru eu dewisiadau cyn cael mynediad i’w tocynnau.
Beth yw Talu mewn 3 PayPal?
Mae Talu mewn 3 PayPay yn caniatáu i chi dalu mewn tri rhandaliad di-log, fel y gallwch chi rannu cyfanswm cost eich archeb mewn i dri thaliad. Rhaid talu’r cyntaf wrth archebu, a bydd y taliadau dilynol yn daladwy ar yr un dyddiad dros y ddau fis nesaf. Mae Talu mewn 3 ar gael wrth dalu ar gyfer archebion rhwng £30 a £2000.
Mae Talu mewn 3 ond ar gael ar gyfer archebion ar-lein. Mae angen cyfrif PayPal gweithredol i ddefnyddio’r gwasanaeth yma; gall fod angen i gwsmeriaid sefydlu un wrth dalu. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan PayPal: PayPal Pay in 3 | FAQ | PayPal UK
Sut ydw i'n defnyddio taleb rhodd/credyd?
Cwblhewch eich archeb yn y ffordd arferol drwy ddewis sioe, dyddiad, amser a’ch seddi, yna ewch i’r sgrin dalu. Yn y gornel dde ar y brig fe welwch ‘Oes gennych Daleb Rhodd? Cliciwch yma i’w defnyddio.’ Os byddwch chi’n clicio ar y testun yma, byddwch chi’n gallu defnyddio eich taleb rhodd drwy fewnbynnu rhif y daleb.
Sut ydw i'n archebu tocynnau gyda cherdyn Hynt?
Gallwch chi archebu tocynnau ar-lein, dros y ffôn ar 029 2063 6464, neu gyda ni yn yr adeilad.
I archebu ar-lein, bydd angen i chi gofrestru eich cerdyn Hynt gyda'ch cyfrif yn gyntaf. Ar ôl iddo gael ei gysylltu, byddwch yn gallu cyrchu prisiau tocynnau Hynt pan fyddwch yn mewngofnodi.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru eich cerdyn Hynt gyda ni, yn syml:
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig.
- Dewiswch sioe o'n tudalen Digwyddiadur.
- Dewiswch y mathau o docynnau Hynt perthnasol ar gyfer eich archeb.
Os nad oes gennych gyfrif ar-lein eisoes, bydd angen i chi greu un cyn archebu.
Nodwch fod nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael ar-lein yn seiliedig ar y nifer a gytunwyd arno yn ystod eich proses o ymaelodi â Hynt. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis y nifer cywir o docynnau ar gyfer pawb yn eich grŵp.
Ni allaf ddod i'r perfformiad rwyf wedi archebu tocynnau ar ei gyfer. Beth alla i ei wneud?
Os bydd eich cynlluniau'n newid, gallwch gyfnewid eich tocynnau ar gyfer perfformiad arall o'r un cynhyrchiad, neu'r un tymor Opera Cenedlaethol Cymru, yn rhad ac am ddim trwy eich cyfrif ar-lein.
Pan fyddwch yn archebu, gallwch hefyd ddewis ychwanegu amddiffyniad ad-daliad trwy ‘Secure My Booking’, ein darparwr diogelu tocynnau trydydd parti. Os ydych chi wedi prynu'r amddiffyniad hwn, efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gwiriwch delerau ac amodau'r polisi am fanylion llawn.
Os nad ydych wedi prynu ‘Secure My Booking’, yna dim ond os yw perfformiad yn cael ei ganslo y mae ad-daliadau ar gael.
Sut ydw i'n cael ad-daliad am fy nhocynnau?
Nid yw tocynnau a brynwyd drwy Ganolfan Mileniwm Cymru yn ad-daladwy, oni bai bod digwyddiad yn cael ei ganslo, ei aildrefnu, neu fod eich archeb yn cynnwys diogelwch ad-daliad. Os gwnaethoch brynu diogelwch ad-daliad ar gyfer eich archeb, cyflwynwch eich cais yn uniongyrchol i'r darparwr diogelwch ad-daliad trwy eu proses ymgeisio ar-lein.
I wneud cais am ad-daliad am docynnau a brynwyd hyd at 30 Medi 2026 cysylltwch â Booking Protect.
I wneud cais am ad-daliad am docynnau a brynwyd o 1 Hydref 2026 ymlaen, cysylltwch â Secure My Booking.
Mae eich gwefan yn dweud bydd cynhyrchiad newydd 'ar werth yn fuan'. Pryd fydda i'n gallu cael tocynnau?
Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau dyddiadau. Rydyn ni'n argymell eich bod yn tanysgrifio i'n cylchlythyr i gael diweddariadau, neu’n ymaelodi er mwyn cael blaenoriaeth wrth archebu pan fydd perfformiadau'n mynd ar werth.
Yn ystod eich ymweliad
Oes gennych ystafell gotiau?
Nac oes, mae ein hystafell gotiau ar gau ar hyn o bryd.
Rydyn ni'n cynnal chwiliadau ar hap o fagiau pobl pan fydd y theatr ar agor a gofynnwn i chi beidio dod â bagiau sy'n fwy na 42cm x 23cm x 30cm.
Oes canllaw gwisg i rywun sy'n dod i weld sioe?
Yn gyffredinol nac oes, does dim rheolau gennym ni o ran beth i'w wisgo. Rydyn ni'n croesawu pawb drwy ein drysau ac rydyn ni am i'n cynulleidfaoedd deimlo'n gyfforddus.
Serch hynny, os bydd canllaw gwisg ar gyfer perfformiad penodol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.
Pryd ddylwn i gyrraedd ar gyfer perfformiad?
Dylech chi geisio cyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau'r perfformiad er mwyn caniatáu digon o amser i brynu rhaglen, archebu diodydd a rhagarchebu mwy ar gyfer yr egwyl. Mae ein bariau theatr yn agor awr cyn dechrau pob perfformiad ac mae Ffwrnais ar agor drwy’r dydd tan hwyr.
Fel arfer bydd drysau'r theatr yn agor ryw 20–30 munud cyn i'r sioe ddechrau, a bydd cyhoeddiad i roi gwybod i chi y gallwch chi fynd i mewn.
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n hwyr?
Rydyn ni'n deall weithiau bod cyrraedd yn hwyr yn anochel. Pan fyddwch chi’n cyrraedd, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn gallu'ch cynghori chi pryd i fynd mewn i'r theatr. Mae gan y mwyafrif o sioeau bwyntiau penodol i hwyrddyfodiaid lle byddwn ni’n ceisio cael pobl sy'n hwyr i'w seddi pan fydd y gynulleidfa yn cymeradwyo.
Serch hynny, nid yw rhai sioeau'n caniatáu hwyrddyfodiaid. Os felly, byddwn ni’n eich cyfeirio at un o'r bariau lle gallwch chi wylio ffrwd byw o'r perfformiad.
Os gallwn ni fynd â chi i mewn i'r theatr yn ystod pwynt i hwyrddyfodiaid, cofiwch bydd y theatr yn dywyll iawn, ac fe fydd tywysydd yn eich dangos chi i'ch sedd gyda fflachlamp.
Oes modd i mi dynnu lluniau a ffilmio?
Nac oes; oni bai ein bod yn cyhoeddi fel arall, mae ein polisi'n datgan na chaniateir ffotograffiaeth na ffilmio yn y theatr unwaith y bydd sioe wedi dechrau fel arwydd o barch i'r perfformwyr. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n annog pob cwsmer i dynnu hunlun cyn y sioe; tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech chi dynnu lluniau proffesiynol neu ffilmio am unrhyw reswm, rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan swyddfa’r wasg.
Ble alla i brynu rhaglen neu nwyddau sioeau?
Bydd rhaglenni ac unrhyw nwyddau sioeau ar gael ar y llawr gwaelod wrth i chi ddod drwy'r drysau, ac mae gwerthwyr rhaglenni hefyd wrth ymyl pob bar cyn sioe.
Ble mae'r toiledau?
Fe welwch doiledau dynion a menywod ar y llawr gwaelod, ac o Lefel 2 i fyny mae toiledau dynion a menywod ar ddwy ochr yr adeilad.
Gall toiledau fod yn brysur cyn perfformiadau ac yn ystod egwyliau. Os ydych chi'n chwilio am opsiwn tawelach, mae'n aml yn werth rhoi cynnig ar lefel arall.
Mae toiledau neillryw hygyrch ar gael ar bob lefel ac ar ddwy ochr yr adeilad.
Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y toiledau hygyrch a'r toiledau menywod ar y llawr gwaelod.
Pa gyfleusterau a gwasanaethau ydych chi'n eu darparu ar gyfer teuluoedd?
Mae gennym ni gyfleusterau newid clytiau yn nhoiledau’r menywod ac yn y toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod.
Mae gennym nifer cyfyngedig o glustogau ar gael am ddim i blant. Gallwch gasglu un o fynedfeydd yr awditoriwm ar ddiwrnodau perfformiad.
Ar gyfer perfformiadau teuluol, mae mannau parcio bygi dynodedig yn aml ar gael. Bydd ein tîm yn hapus i'ch arwain yno pan fyddwch yn cyrraedd yr adeilad.
Sut ddylwn i ymddwyn yn ystod y perfformiad?
Rydyn ni am i bawb allu mwynhau'r perfformiad, felly dylech chi barchu'r bobl o'ch cwmpas chi yn y theatr. Mae'r modd y disgwylir i'r gynulleidfa ymddwyn hefyd yn dibynnu ar y sioe ei hunan.
Mae siarad, canu, mwmian a chlapio yn gallu amharu ar fwynhad pobl eraill os byddwch chi’n gwneud hyn ar adegau amhriodol. Dim ond rhwng pob act neu set y dylai pobl glapio fel arfer.
Mae rhai sioeau cerdd yn cynnwys darnau encore, a dyma'r adeg pan fydd pobl yn gallu clapio a chyd-ganu gan fod y perfformiad go iawn wedi gorffen.
Yn ystod y sioe, dylid osgoi mynd a dod o'ch seddi oni bai ei bod hi'n argyfwng. Gall ein tywyswyr eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau a allai fod gennych.
Alla i fwyta yn y theatr?
Ni chaniateir bwyd poeth a diodydd poeth yn yr awditoriwm.
Gallwch ddod â rhai diodydd oer i'r theatr, ar yr amod eu bod mewn potel blastig, cwpan neu gan.
Er ein bod yn caniatáu rhai eitemau bwyd, rydyn ni’n annog ymwelwyr i fwyta cyn neu ar ôl y perfformiad lle bo hynny'n bosibl, gan y gall bwyta yn ystod y sioe darfu ar aelodau eraill o'r gynulleidfa.
Sut ydw i’n archebu diodydd i’r egwyl?
Gallwch ragarchebu diodydd i’r egwyl gan ddefnyddio’r ddolen SMS, sydd ar gael tan 5 munud cyn dechrau’r sioe.